Cynorthwy-ydd lleoliad
Disgrifiad Swydd

Rydyn ni’n chwilio am Gynorthwy-ydd Lleoliad brwdfrydig a hyderus i helpu i gefnogi ein digwyddiadau, paratoi ystafelloedd, ac ymateb i broblemau cynnal a chadw’r adeilad yn Theatr Clwyd.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i rywun sy'n ffynnu mewn amgylchedd cyflym ac sy'n hoff iawn o ddod o hyd i atebion ymarferol, a pharatoi ystafelloedd digwyddiadau i safon uchel. Bydd y rôl hanfodol yma’n chwarae rhan allweddol yng nghalon ein sefydliad.
Os ydych chi'n ymarferol, yn drefnus, yn hawdd siarad â chi ac yn angerddol am letygarwch, gwaith tîm a darparu gwasanaeth eithriadol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Math o Gontract- Parhaol
Oriau - 25 yr wythnos
Y Rôl
Cyfrifoldebau allweddol
- Paratoi gofod yn barod ar gyfer digwyddiadau a defnydd busnes o ddydd i ddydd.
- Gall y paratoi gynnwys seddi, dodrefn arall, arlwyo, gweithdai, gweithgareddau, offer trydanol gan gynnwys systemau sain, goleuadau, taflunyddion a gliniaduron.
- Cynorthwyo gyda pharatoi a gweithredu digwyddiadau, gan gynnwys cydosod a datgymalu offer a mân atgyweiriadau a newid offer pan mae angen.
- Cefnogi tîm technegol y lleoliad gyda thasgau technegol sylfaenol.
- Gwirio diogelwch offer mewn meysydd cyfrifoldeb a rhoi gwybod am unrhyw ddifrod neu ddiffygion i offer ar unwaith ar ôl eu darganfod.
- Sicrhau bod lefel gyson uchel o lendid a hylendid yn cael ei chynnal ym mhob rhan o’r cyfleusterau.
- Cynorthwyo i gynnal a chadw offer, yr ardaloedd cefn a’r storfeydd mewn modd glân, diogel a thaclus.
- Deall a chydymffurfio â gweithdrefnau brys (cynllun gweithredu brys) a chynorthwyo gydag unrhyw ddigwyddiadau o'r fath mewn ffordd briodol.
- Cefnogi gweithgarwch manwerthu ac arlwyo pan mae hynny'n briodol.
- Mae hon yn rôl gorfforol heriol, gan weithio ar draws gofod mawr y lleoliad, ac nid yw’n swydd mewn swyddfa.
- Unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cais y Rheolwr TG a Chyfleusterau.
Y Person
Hanfodol
- Profiad helaeth o werthu ym maes digwyddiadau, lleoliadau neu letygarwch
- Profiad helaeth o ddarparu digwyddiadau
- Enw da am gyrraedd neu ragori ar dargedau refeniw
- Profiad o reoli a gwerthu gofod ar gyfer digwyddiadau a llogi corfforaethol neu breifat
- Sgiliau cyfathrebu a thrafod ardderchog
- Gallu rheoli nifer o brosiectau a dyddiadau terfyn yn effeithiol
- Agwedd ragweithiol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac ar ganlyniadau
- Aelod da o dîm sy’n gallu cydweithio a meithrin perthynas effeithiol gyda chydweithwyr ar draws gwahanol dimau a lefelau yn y cwmni

Gwnewch gais am y rôl
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen we newydd, lle byddwch yn dod o hyd i’r Disgrifiad Swydd lawn a gallwch gwblhau cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.