Cyfarwyddwr dan hyfforddiant Theatr Clwyd
Disgrifiad Swydd

Mae
Cyfarwyddwr Dan Hyfforddiant Preswyl Theatr Clwyd yn gyfle nodedig i
gyfarwyddwr theatr sydd ar ddechrau ei yrfa ac sydd â chysylltiad â Chymru
dreulio 18 mis yn Theatr Clwyd yn gweithio ar draws y sefydliad, gan ddarparu
hyfforddiant manwl a gwybodaeth am redeg theatr gynhyrchu fawr. Bydd y
cyfarwyddwr yn gweithio ar amrywiaeth o gynyrchiadau Theatr Clwyd fel
Cyfarwyddwr Cynorthwyol yn Theatrau Moondance a Weston, ac ar brosiectau
eraill. Bydd yr Hyfforddai hefyd yn treulio amser gyda phob tîm yn Theatr
Clwyd, gan sicrhau dealltwriaeth lawn a thrylwyr o bob agwedd ar greu,
cynhyrchu a rhedeg darn o theatr. Hefyd bydd y Cyfarwyddwr Dan Hyfforddiant yn
cefnogi gwaith Stiwdio Clwyd, stiwdio ddatblygu genedlaethol ar gyfer crëwyr
theatr o Gymru a’r rhai sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.
Cytundeb cyfnod penodol am 18 mis
Oriau - 37 yr wythnos
Mae’r sesiynau Cwestiwn ac Ateb ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn y swydd ac sydd efallai â chwestiwn am y rôl. Byddant ar Zoom ar -
Dydd Llun 12eg Hydref - 1yp - 2yp
Dydd Iau 15eg Hydref - 5.30yp - 6.30yp
I fynychu sesiwn Cwestiwn ac Ateb, cofrestrwch drwy anfon e-bost at stiwdio@theatrclwyd.com a bydd y linc Zoom yn cael ei hanfon atoch.
Y Rôl
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn treulio 18 mis yn Theatr Clwyd, gan sicrhau sylfaen lawn a thrylwyr ym mhob agwedd ar greu theatr. Bydd yn gweithio ar bedwar i chwe chynhyrchiad gan Theatr Clwyd fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar draws yr ystod lawn o waith rydym yn ei gynhyrchu. Bydd cyfle i weithio ar gynyrchiadau yn theatrau Moondance a Weston, a phrosiectau eraill yn ystod y cynllun hyfforddi 18 mis. Bydd y cynyrchiadau hyn yn cynnwys drama newydd, Emerald & Pearl, addasiad newydd o A Doll’s House gan Ibsen, sioe gerdd newydd; ein pantomeim Roc a Rôl flynyddol a chynyrchiadau eraill sydd heb eu cyhoeddi eto. Yn ogystal â gweithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr Artistig a'r Cyfarwyddwr Cyswllt, bydd yr Hyfforddai’n treulio un wythnos (neu gyfnod sy'n cyfateb) gyda phob tîm yn Theatr Clwyd dros y cyfnod o 18 mis, gan sicrhau dealltwriaeth lawn a thrylwyr o bob agwedd ar greu, cynhyrchu a rhedeg darn o theatr. Hefyd bydd y Cyfarwyddwr Dan Hyfforddiant yn cefnogi gwaith Stiwdio Clwyd, stiwdio ddatblygu genedlaethol ar gyfer crëwyr theatr Cymru ac wedi’u lleoli yng Nghymru. Bydd y Cynllun Hyfforddi’n cyrraedd ei benllanw gyda'r Hyfforddai’n cyfarwyddo cynhyrchiad llawn o ddrama yn yr iaith o'i ddewis, a fydd yn rhedeg mewn gofod theatr neu mewn gofod fydd wedi’i ganfod yn dilyn ei amser gyda ni. Bydd y cynhyrchiad yn cael ei benderfynu ar y cyd rhwng y Cyfarwyddwr Dan Hyfforddiant a Theatr Clwyd.
Dan oruchwyliaeth Cyfarwyddwr Stiwdio Clwyd, y Cyfarwyddwr Artistig a'r Cyfarwyddwr Cynhyrchu a Rhaglenni, bydd y Cyfarwyddwr Dan Hyfforddiant yn gwneud y canlynol:
Fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar brosiectau penodol:
- Gweithio ochr yn ochr â'r cyfarwyddwr ar ddatblygu sgript, castio a thrwy gydol y broses cyn-gynhyrchu.
- Cefnogi'r cyfarwyddwr a'r tîm creadigol mewn ymarferion a sioeau ymlaen llaw, gan weithio gyda'r actorion os a phan fo angen, gwneud nodiadau, helpu gyda dysgu llinellau a gweithio ar olygfeydd neu gyfresi penodol a chefnogi rhediad llyfn yr ymarferion a’r ymarfer technegol.
- Mynychu pob ymarfer, cyfarfod cynhyrchu, ymarfer technegol, sioe ymlaen llaw a noson gwesteion. Pan ofynnir am hynny, goruchwylio ymarferion, arwain gwaith cynhesu, camu i rôl y cyfarwyddwr wrth arwain ymarferion, a chefnogi gyda gofal bugeiliol i’r actorion a'r tîm creadigol.
- Parhau i wylio a gwneud nodiadau ar y sioe yn ystod ei rhediad, gan roi’r nodiadau i'r cwmni yn ôl cyngor y cyfarwyddwr.
- Cyfrannu at drafodaethau gyda'r tîm creadigol ac mewn cyfarfodydd cynhyrchu, cysylltu â'r tîm Rheoli Llwyfan, a chefnogi gweledigaeth y cyfarwyddwr a'r tîm creadigol ar gyfer y cynhyrchiad.
- Cynorthwyo'r cwmni i gofnodi’r broses ymarfer at ddibenion marchnata, archifo a gwerthuso'r prosiect drwy flogiau, cyfryngau cymdeithasol a ffurfiau eraill fel y cytunwyd gyda'r tîm Cynhyrchu yn Theatr Clwyd.
- Cynnal unrhyw ymchwil a fydd yn sail i'r cynhyrchiad ac o fudd iddo, fel y cytunwyd gyda'r Cyfarwyddwr.
- Cyfrannu at unrhyw weithgareddau neu ddigwyddiadau ymgysylltu creadigol ac addysgol drwy gytundeb â'r Cyfarwyddwr a'r Cynhyrchydd.
- Gwneud nodiadau ar y sioe ddwywaith yr wythnos ar ôl noson y wasg, gan ymgynghori â'r cyfarwyddwr.
- Unrhyw ddyletswyddau pellach fel sy’n ofynnol gan y Cyfarwyddwr.
Fel Hyfforddai yn yr adeilad:
- Gweithio ochr yn ochr â thimau creadigol profiadol dan arweiniad cyfarwyddwyr blaenllaw sy'n gweithio yn y DU heddiw.
- Profi'r amrywiaeth lawn o swyddi a chyfleoedd y mae gweithio o fewn cwmni theatr sy'n seiliedig ar adeilad yn eu cynnig.
- Ymuno â grwpiau gwaith eraill y tu allan i'w brif arbenigedd i ddod yn aelod cwmni sy'n ymgysylltu'n llawn.
- Mynychu sesiynau’r Rhwydwaith Artistiaid Lleol i gefnogi ecoleg creu theatr yn y rhanbarth, gan gynnwys cynnal gweithdai Campfa Actorion.
- Mynychu gweithdai wythnosol, ysgolion haf a gwaith cymunedol arall gyda'n tîm Ymgysylltu Creadigol.
Bydd y Cyfarwyddwr Dan Hyfforddiant hefyd yn sicrhau dealltwriaeth drylwyr o'r broses gynhyrchu a sut mae lleoliad cynhyrchu’n gweithredu drwy gael y cyfle i weithio mewn nifer o feysydd yn Theatr Clwyd fel yr amlinellir isod:
- Mynychu amrywiol Gyfarfodydd Uwch Arweinyddiaeth
- Mynychu cyfarfodydd Rhaglennu a Chynhyrchu
- Darllen sgriptiau a gweithio ar ddatblygu prosiectau
- Gweithio gyda thîm Stiwdio Clwyd i sbarduno cefnogaeth a datblygiad artistiaid
- Astudio gwneud gwisgoedd a chynnal a chadw sioeau gyda'n tîm Gwisgoedd
- Dysgu am adeiladu setiau, celf golygfeydd a phrops gyda'n timau Gweithdy, Celf Golygfeydd a Phrops
- Gweithio ar greu a gweithredu goleuadau a sain ar gyfer sioeau gyda'n timau LX a Sain
- Gweithio ochr yn ochr â'n tîm Llwyfan ar ffitio, symud sioe i mewn ac allan, criw a chynnal a chadw
- Gweithio gyda Rheolwyr Cynhyrchu a thimau Rheoli Llwyfan ar gynllunio tymor hir a sioeau
- Gweithio gyda'n tîm Profiad a thîm y Swyddfa Docynnau ar bob agwedd ar weithrediadau a digwyddiadau'r theatr
- Dysgu am farchnata a'r wasg gyda'n tîm Marchnata
- Gweithio gyda'n tîm Datblygu ar godi arian, aelodaeth a digwyddiadau
- Gweithio gyda'n tîm Cynhyrchu a Rhaglennu ar sioeau mewn datblygiad, ymarferion a pherfformiadau
Arall
- Unrhyw dasgau eraill y gofynnir amdanynt yn rhesymol gan y Cyfarwyddwr Artistig, Cyfarwyddwr Stiwdio Clwyd a'r Cyfarwyddwr Cyswllt
- Cynrychioli a hyrwyddo'r sefydliad yn gadarnhaol ar bob lefel
Y Person
- Yn gallu dangos ymrwymiad i gyfarwyddo theatr ac angerdd dros weithio yn y theatr
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar
- Sgiliau rhyngbersonol rhagorol, gan gynnwys y gallu i ymwneud ag amrywiaeth eang o bobl
- Dyhead i gefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a mynediad mewn ffordd sy'n adlewyrchu cymdeithas gynhwysol
- Dangos diddordeb mewn creu gwaith sy'n archwilio cynhwysiant, hygyrchedd a mynediad integredig, neu ymrwymiad iddynt
- Sgiliau trefnu da gyda'r gallu i weithio ar sawl tasg ar yr un pryd ac o dan bwysau
- Presenoldeb egnïol ac ysbrydoledig
- Dyfeisgarwch a meddwl cyflym
- Sgiliau rheoli amser cadarn
- Y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
- Ymrwymiad i ragoriaeth artistig
- Wedi'i leoli yng Nghymru neu o Gymru gydag ymrwymiad i wneud gwaith yng Nghymru
- Dros 18 oed a heb fod mewn addysg na hyfforddiant ffurfiol ar hyn o bryd.

Gwnewch gais am y rôl
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen we newydd, lle byddwch yn dod o hyd i’r Disgrifiad Swydd lawn a gallwch gwblhau cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.