Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau
Disgrifiad Swydd

Rydym yn awyddus i benodi Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau newydd i ymuno â'r Uwch Dîm Arwain.
A ninnau newydd gwblhau ein blwyddyn gyntaf o fasnachu ar safle theatr a chelfyddydau sydd bellach ar ei newydd wedd – ar ôl buddsoddiad cyfalaf o £50 miliwn – bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd a'r grŵp masnachu mewn cyfnod cyffrous iawn. Bydd gan yr unigolyn gyfrifoldeb uwch am strategaeth ariannol a gweithredol i gefnogi'r Prif Swyddog Gweithredol. Bydd cyfle i gyfrannu at gyflawni amcanion sy'n ymwneud â'r meysydd pwysig hyn mewn llawer o wahanol ffyrdd. Fel y theatr gynhyrchu fwyaf yng Nghymru, a lle sy'n meithrin dysg a gofal cymunedol ac yn cynnig darpariaeth ddiwylliannol ehangach, mae Theatr Clwyd yn cynnig croeso cynnes. Anogir holl aelodau'r cwmni i roi pwyslais ar yr unigolyn ym mhob rhan o’u gwaith, a gwneud hynny i’r safon uchaf. Mae'r rôl yn goruchwylio cyllid a gweithrediadau Theatr Clwyd, gan gynnwys yn Neuadd William Aston yn Wrecsam, mewn partneriaeth â'n partner Bwyd a Diod, Bryn Williams, a drwy ein hail elusen – Ymddiriedolaeth Gerddoriaeth Theatr Clwyd.
Pleser o'r mwyaf fydd cwrdd ag ymgeiswyr sydd â phrofiad cryf o arweinyddiaeth ariannol a gweithredol, ac sy'n awyddus i weithio mewn awyrgylch creadigol a chyffrous. Mae angerdd dros y celfyddydau a diwylliant, ynghyd â pharodrwydd i weithio'n hyblyg ac yn gydweithredol, yn hanfodol. Edrychwn ymlaen at gwrdd ag unigolion cymwys a rhagorol.
Dyddiad Cau ar gyfer Ymgeisio – 10am, dydd Llun 16 Tachwedd
I gael rhagor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â - Liam Evans-Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol, [email protected]
Math o Gontract- Parhaol
Oriau - 37 yr wythnos
Y Rôl
Mae’r Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau yn arwain strategaeth ariannol ac effeithiolrwydd gweithredol Theatr Clwyd ac endidau’r grŵp, gan sicrhau bod gan y sefydliad yr adnoddau, y systemau a'r seilwaith i gyflawni pob uchelgais artistig a chymunedol mewn ffordd gynaliadwy.
Gan fod yn atebol i'r Cyfarwyddwr Gweithredol, mae deiliad y swydd yn aelod o'r uwch dîm arwain ac yn arwain ar waith cyllid, profiad ymwelwyr, TG a systemau, a chyfleusterau drwy'r rheolwyr sy'n gyfrifol am y rhain.
Mae'r rôl yn darparu cyngor ariannol clir i'r Cyfarwyddwr Gweithredol, yr uwch arweinwyr a’r ymddiriedolwyr; yn cryfhau gwaith llywodraethu a rheoli risg; ac yn arwain gwelliant parhaus mewn perfformiad ariannol, hygyrchedd, profiad ymwelwyr a gwydnwch gweithredol.
Y Person
- Cymhwyster cyfrifyddu proffesiynol
- Profiad sylweddol fel uwch arweinydd cyllid yn y sector elusennol
- Profiad sylweddol o reoli gweithrediadau lleoliadau mewn sefydliad cymhleth ar gyfer y cyhoedd, gan ddangos effeithiolrwydd mewn gwasanaethau i gwsmeriaid
- Profiad o weithio gydag aelodau Bwrdd ac ymddiriedolwyr, ac adrodd yn ôl iddynt
- Dangos lefel uchel o sgiliau ym maes trefnu a chynllunio
- Profiad amlwg o gyflawni targedau masnachol.
- Gwybodaeth gyfoes am ddeddfwriaeth trwyddedu ac iechyd a diogelwch
- Sgiliau gweinyddol cryf
- Gallu amlwg i gyfathrebu'n effeithiol ac yn hyderus gyda grwpiau amrywiol o bobl
- Dealltwriaeth o amrywiaeth a chynhwysiant ac ymrwymiad iddynt
- Dangos ymrwymiad i ragoriaeth artistig

Gwnewch gais am y rôl
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen we newydd, lle byddwch yn dod o hyd i’r Disgrifiad Swydd lawn a gallwch gwblhau cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.