Cydlynydd Stiwdio Clwyd -Tymor Penodol
Disgrifiad Swydd

Rydym yn chwilio am weinyddwr deinamig a threfnus sydd â diddordeb mewn datblygu theatr ac artistiaid a gwybodaeth am farchnata i ymuno â thîm Stiwdio Clwyd. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi ac yn cynorthwyo Cyfarwyddwr Stiwdio Clwyd a Chynhyrchydd(Cynhyrchwyr) Stiwdio Clwyd trwy ddarparu cydlynu a gweinyddu effeithiol, a fydd yn galluogi gweithrediad llyfn ac effeithlon prosiectau Stiwdio Clwyd i gefnogi gwneuthurwyr theatr Cymru a rhai sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.
Cytundeb cyfnod penodol am 12 mis
Oriau - 37 yr wythnos
Y Rôl
DYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU
GWEINYDDIAETH
• Gweithio'n agos gyda Chyfarwyddwr Stiwdio Clwyd i gyflawni'r amcanion strategol a'r weledigaeth ar gyfer Stiwdio Clwyd.
• Gweithio'n agos gyda thîm Stiwdio Clwyd i sicrhau bod prosiectau a rhaglenni Stiwdio Clwyd yn rhedeg yn esmwyth.
• Cydlynu archebion ar gyfer ystafelloedd a lleoliadau (mewnol ac allanol) a sicrhau bod tîm Stiwdio Clwyd yn cael ei gefnogi o fewn y lleoliadau hynny.
• Goruchwylio'r broses o sefydlu'r holl artistiaid a gyflogir gan Stiwdio Clwyd
• Cydlynu gweinyddiaeth yr holl artistiaid a gyflogir gan Stiwdio Clwyd
• Cyfrifoldeb am weinyddiaeth a logisteg preswylfeydd, gweithdai, digwyddiadau ar-lein ar gyfer Stiwdio Clwyd, cynorthwyo gyda gweithredu prosesau a chynnal cofnodion cywir.
CYFATHREBU
• Gweithio gyda thîm Stiwdio Clwyd a thîm Marchnata Theatr Clwyd i greu strategaeth farchnata ac amserlen a chefnogi gyda'r ddarpariaeth
• Cydlynu cylchlythyrau e-bost a defnyddio DotDigital i greu ymgyrchoedd e-bost wedi'u targedu, sy’n ddeinamig ac yn greadigol
• Cynorthwyo gydag ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd a marchnata ar gyfer gwaith Stiwdio Clwyd
• Cefnogi'r tîm i sicrhau bod gwefan Stiwdio Clwyd yn cael ei diweddaru'n rheolaidd, yn parhau i fod yn weithredol ac yn cyrraedd targedau allweddol ar gyfer ymgysylltu. Sicrhau bod tudalennau statig a digwyddiadau gwefan Stiwdio Clwyd yn gywir, yn ddeinamig ac yn cael eu hysgogi gan ymgysylltu.
• Monitro, diweddaru a chreu cynnwys ar gyfer sianeli cyfryngau cymdeithasol Stiwdio Clwyd
• Archwilio ffyrdd o gynyddu effaith gwefan Stiwdio Clwyd.
CYFFREDINOL
• Lle bo'n briodol, cydlynu gweinyddiaeth a chyflawniad prosiectau a digwyddiadau
• Cefnogi Cyfarwyddwr Stiwdio Clwyd i gyflawni'r weledigaeth a'r strategaeth
• Cynnal perthnasoedd cadarnhaol ag aelodau cwmni Theatr Clwyd, artistiaid, sefydliadau partner a phob rhanddeiliad arall.
• Cefnogi Cyfarwyddwr Stiwdio Clwyd i integreiddio'r adran yn llawn â rhaglen ehangach Theatr Clwyd
• Bod yn llysgennad gweithredol dros Stiwdio Clwyd bob amser, a darparu'r lefel uchaf o ofal cwsmeriaid a hyrwyddo gwaith Theatr Clwyd a Stiwdio Clwyd.
• Gweithio yn unol ag Egwyddorion Arweiniol Stiwdio Clwyd a Theatr Clwyd.
Y Person
- Profiad amlwg o weinyddu a chydlynu mewn amgylchedd swyddfa.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
- Sgiliau rhyngbersonol rhagorol, yn gallu datblygu perthnasoedd gwaith effeithiol gyda rhanddeiliaid allweddol ac amrywiaeth o bobl.
- Sgiliau cynllunio a threfnu rhagorol gan roi sylw manwl i fanylion.
- Profiad neu wybodaeth marchnata sylfaenol.
- Hyderus wrth ddefnyddio platfformau cyfryngau cymdeithasol at ddibenion busnes.

Gwnewch gais am y rôl
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen we newydd, lle byddwch yn dod o hyd i’r Disgrifiad Swydd lawn a gallwch gwblhau cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.