Cyfle i Ennill Tocyn Aur!
I ddathlu ein pen-blwydd ni yn 50 oed, rydyn ni’n cynnal raffl wych i roi cyfle i chi ennill un o 6 thocyn aur am brofiad cyffrous yma yn y theatr.
Cymerwch ran yn y raffl cyn 30 Mehefin 2026 i ennill profiad pefriog yn Theatr Clwyd.
Ein Tocynnau Aur...

Bydd yr holl elw o'r raffl yn mynd tuag at y gwaith trawsnewidiol rydyn ni’n ei wneud gyda'n cymunedau ni. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.
Telerau ac amodau
- Pinocchio ar Noswyl Nadolig: Mae'r wobr yn cynnwys tocyn a defnydd preifat o'r bocs ar gyfer hyd at 12 o bobl.
- Tocyn sinema: Dau docyn am ddim i'r sinema bob mis am 6 mis.
- Tocyn Cefn Llwyfan: Taith gefn llwyfan breifat, dywys ar gyfer hyd at 10 o bobl, y dyddiad i'w gytuno.
- Te Prynhawn: Taleb i 4 o bobl gael te prynhawn Prosecco yn Bryn Williams yn Theatr Clwyd.
- Ymarfer technegol y panto: Gwahoddiad i wylio ymarfer technegol o Pinocchio. Bydd y dyddiad yn cael ei gadarnhau'n nes at yr amser, a bydd yn digwydd yn ystod y prynhawn.
- Wisgi Penderyn a Thaith: Un botel o Wisgi 'Serpent's Tears' (Pris Gwerthu: £80) a 4 tocyn am ddim i oedolion i fynd ar daith o amgylch Distyllfa Penderyn yn Llandudno.
- Nid yw'r gwobrau'n drosglwyddadwy.
- Bydd y Raffl yn cael ei chynnal ar 1 Gorffennaf 2026 a bydd yr enillwyr yn cael gwybod erbyn 3 Gorffennaf 2026.