Yn Theatr Clwyd rydym yn datblygu prosiectau arloesol i gefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Rydym yn ffurfio partneriaeth gyda sefydliadau i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl, gan gynnwys gweithio gyda'n gwasanaethau cymdeithasol lleol i gefnogi pobl ifanc sy'n byw mewn gofal.

Yn ystod y cyfyngiadau symud buom yn gweithio gyda 1,000 o bobl bob wythnos, gan gynnwys parhau ag addysg gerddorol i bobl ifanc a dechrau grŵp ar-lein newydd i gefnogi pobl sy'n byw gyda Chlefyd Parkinson. Cafodd ein gwaith yn ystod y pandemig ei gydnabod fel rhan o Arddangosfa Achates a gwnaethom ennill gwobr Theatr Ranbarthol y Flwyddyn The Stage.

Dyma fideo sy'n dangos rhywfaint o'n gwaith yn ystod y cyfnod hwn.