Theatr Clwyd works with our communities and make the arts accessible to everyone. These projects bring communities together, explore social issues and work with people who may traditionally have felt excluded from the arts.

Here are a few of our projects:

Hybiau

Yn ystod haf 2020 pan na allai unrhyw un arall ddod i mewn i'n hadeilad, ffurfiwyd partneriaeth gennym â'r gwasanaethau cymdeithasol i redeg hybiau haf. Gan weithio gyda Gweithwyr Llawrydd Creadigol, treuliodd 60 o bobl ifanc o deuluoedd agored i niwed a phlant gweithwyr allweddol y bwrdd iechyd lleol yr haf yn bod yn greadigol, yn cael hwyl ac yn cymdeithasu.

"Mae Sir y Fflint a Chlwyd wedi gweld angen yma ac wedi gwneud rhywbeth yn ei gylch mewn ffordd gynaliadwy a thrwy ddathlu. Mae'r cyfyngiadau symud wedi bod yn anodd i blant ac i ofalwyr. Gall ychydig o help fynd yn bell" Samuel West, Actor a Barnwr gyda Chalonnau i'r Celfyddydau (prosiect a enwebwyd gan Theatr Clwyd)

Y Rhaglen Cyfiawnder

Yn ei degfed blwyddyn bellach mae’r Rhaglen Cyfiawnder yn edrych ar ganlyniadau troseddu gyda phobl ifanc. Mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru a’r Ymddiriedolaeth Droseddu (PACT), mae’r gweithdai addysgol yn mynd â phobl ifanc i Lys Ynadon EM i drafod dedfryd y prif gymeriad Connor. Mae’r prosiect yn parhau’n gyfoes gyda’r themâu’n cynnwys cyffurlinellau a throseddau cyllyll.

Theatr Noddfa

Rydym yn gweithio tuag at ddod yn theatr noddfa i ffoaduriaid a phobl sydd wedi'u dadleoli. Ers i ni ddechrau gweithio gyda'n cymuned ffoaduriaid rydym wedi bod yn gweithio ar nifer o brosiectau, gan gynnwys mynd â chân i'r Eisteddfod i ddathlu diwylliannau Syria a Chymru.

Mae rhodd i Theatr Clwyd yn ein helpu ni i barhau â'n rhaglen Celfyddydau a’r Gymuned ac yn sicrhau bod mwy o bobl sy'n byw yn ein cymuned yn cael eu cefnogi gyda'r celfyddydau.

Helpwch ni i barhau â’n gwaith yn ein cymuned!

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein rhaglen Celfyddydau a’r Gymuned, cysylltwch â development.trust@theatrclwyd.com