Mae gan Theatr Clwyd raglen uchelgeisiol ar gyfer y Celfyddydau ac Iechyd i gefnogi pobl sy'n defnyddio'r celfyddydau gyda'u hiechyd a'u lles. Rydym yn bartner i'r bwrdd iechyd lleol ac elusennau iechyd i ddatblygu prosiectau pwrpasol sy'n cefnogi iechyd meddyliol a chorfforol pobl.

Dyma rai o'n prosiectau:

Celf o’r Gadair Freichiau

Mae ein gweithda Celf o’r Gadair Freichiau, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn helpu cyfranogwyr a’u hanwyliaid i ymdopi ac addasu. Mae ein gweithdai cadarnhaol yn archwilio ystod o weithgareddau creadigol i helpu i ysgogi’r ymennydd a’r cof sy’n dirywio, magu hunanhyder a rhoi a rhannu profiad hapus, gan greu atgofion newydd, ystyrlon.

Cadwch lygad am ein hymgyrch codi arian ar 30 Tach - 7 Rhag i weld sut y gallwch chi ein helpu i sicrhau cefnogaeth y mae mawr ei hangen arnom ar gyfer y prosiect pwysig hwn. Rydyn ni'n cymryd rhan yn The Big Give Christmas Challenge felly bydd y rhoddion a wneir yr wythnos hon yn cael eu dyblu! Gweler yma am ragor o wybodaeth

Cefnogwyd gan Lyan Packaging a Arts & Business Cymru.

Dawns, Drama a Cherddoriaeth ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol

Wedi’i ddechrau yn ystod y pandemig mae'r grŵp hwn yn cyfarfod ar-lein ac mae’r cyfranogwyr yn ymuno o bob rhan o Gymru. Mae'r grŵp yn llunio dilyniannau dawns gan ddefnyddio eu hoff bethau fel ysbrydoliaeth, fel gwyliau a cherddoriaeth. Mae cerddor byw yn cyfeilio i’w symudiadau dawns ac mae’n byrfyfyrio gyda’u symudiadau.

Canu er lles yr Enaid

Wedi'i greu i gefnogi pobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl cronig, caiff y cyfranogwyr eu hatgyfeirio gan y bwrdd iechyd lleol. Mae'r grŵp wedi gwneud sylwadau ar y manteision gwych maent yn eu cael o fynychu, gan gynnwys y ffrindiau maent wedi'u gwneud.

"Nid yw’n feddyginiaeth fel y cyfryw ond mae'n feddyginiaeth i mi gan ei fod mor llawen a dyna'r prif beth i mi."

Mae rhodd i Theatr Clwyd yn ein helpu ni i barhau â'n rhaglen Celfyddydau ac Iechyd ac yn sicrhau bod mwy o bobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd yn cael eu cefnogi gyda'r celfyddydau.

Helpwch ni i barhau â’n gwaith yn ein cymuned!

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein rhaglen Celfyddydau ac Iechyd, cysylltwch â development.trust@theatrclwyd.com