Diwrnod Desg Heb Ddrama
Eich hoff le newydd chi i weithio ohono - dim drama, dim ond lle gwych i fod!
Dianc rhag y sŵn, y tarfu, a'r "cwestiynau cyflym" diddiwedd. Camwch i mewn i Theatr Clwyd am ddiwrnod gwaith sydd wir yn gweithio i chi.
Am ddim ond £13.50, mae ein Pecyn Gwaith ni'n cynnwys te ac Americano digyfyngiad, dewis o frechdan neu baguette, creision, a chacen flasus!
Os ydych chi'n weithiwr llawrydd, yn weithiwr o bell, neu ddim ond yn dyheu am newid byd, mae ein Diwrnod Desg Heb Ddrama ni’n rhoi lle i chi ganolbwyntio, meddwl a chreu – a’r cyfan yng nghalon lleoliad diwylliannol mwyaf ysbrydoledig Gogledd Ddwyrain Cymru.
(manylion llawn isod)

Gofod gwaith tawel, cyfforddus
Setlwch mewn yn braf yn ein hardaloedd cyhoeddus hyfryd, croesawgar ni yn ein theatr hardd, gyda digon o le i gyflawni pethau.
Er mwyn dangos cwrteisi tuag at ymwelwyr eraill, defnyddiwch eich clustffonau wrth ateb galwadau neu gynnal cyfarfodydd ar-lein. Diolch yn fawr.
Sut mae'n gweithio
Cyfle i chi fwynhau cynnig bwyd a diod arbennig a blasus ym Mwyty Bryn Williams wrth ddefnyddio’r cod “Diwrnod Desg Heb Ddrama” wrth y bar. Gallwch fwynhau te a choffi Americano am ddim, y tanwydd perffaith ar gyfer diwrnod cynhyrchiol!
Awyrgylch creadigol
Amgylchynwch eich hun gyda bwrlwm theatr brysur heb unrhyw anhrefn cefn llwyfan. Mae’n gyfuniad delfrydol o egni a thawelwch.
Oriau hyblyg
Galwch heibio, gosod eich stondin, mewngofnodi i'n Wi-Fi ni am ddim, ac aros faint fynnwch chi yn ystod y dydd.
Maes parcio
Mae ein maes parcio ni'n llawer rhatach nag un canol dinas! Mae mwy o wybodaeth am barcio ar gael yma.
Gwybodaeth lawn
Diwrnod Desg Heb Ddrama – Pecyn Bwyd a Diod Arbennig
Ar Gael: Dydd Llun - Dydd Gwener | 9:00 am - 4:30 pm
Lleoliad: Bar Theatr Clwyd a'r 2il lawr
Pris y Pecyn: £13.50
Yn cynnwys:
- Te a choffi Americano digyfyngiad
- Dewis o frechdan neu baguette
- Creision
- Cacen
- Wi-Fi am ddim a mynediad at socedi pŵer
Uwchraddio Dewisol i Salad: +£2 → cyfanswm £15.50
Mae ein Pecyn Gwaith ni'n cynnwys te ac Americano digyfyngiad i'r cwsmer sy'n mwynhau'r bwrdd. Mae posib archebu diodydd ychwanegol i bobl eraill ar wahân - cadwch y creadigrwydd yn llifo!
Sylwch: Nid oes posib cyfuno'r cynnig yma gydag unrhyw hyrwyddiadau, gostyngiadau neu fuddion eraill i aelodau

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cynnig yma, cysylltwch â Sarah ar sarah.jones@theatrclwyd.com neu ffoniwch 01352 918087.