GAN Y TÎM Y TU OL I’R SIOE A WERTHWYD ALLAN UNCANNY: I KNOW WHAT I SAW
Ydych chi’n ofni’r tywyllwch? Mae Danny Robins yn ôl gyda sioe lwyfan fyw hollol newydd sy’n ymchwilio i’r straeon Uncanny mwyaf dychrynllyd, wrth i’r podlediad a’r gyfres deledu baranormal arobryn gan y BBC ddod yn fyw ar y llwyfan mewn modd cyffrous ac iasol!
Dychrynllyd, cyfareddol ac weithiau’n emosiynol, paratowch i ymchwilio i gasgliad o ddirgelion posib baranormal go iawn, wrth i Danny geisio darganfod pam ein bod ni, fel pobl, yn parhau i ofni’r tywyllwch. Ydi o’n ofergoeliaeth? Yn weddill o’n dyddiau fel pobl ogof yn cuddio o gwmpas tan? Neu a oes rhywbeth gwirioneddol yn cuddio yn y tywyllwch?
Bydd yr arbenigwyr Dr Ciarán O’Keeffe ac Evelyn Hollow yn ymuno â Danny i archwilio ysbrydion, UFOs, meithrinfa felltigedig, creaduriaid rhyfedd ar ffyrdd wledig unig, a gweithgarwch poltergeist rhyfedd mewn tai sy’n ymddangos yn hollol normal. Dyw hon ddim yn sioe bodlediad arferol. Mae hon yn adrodd straeon ac ymchwilio baranormal ar ei orau. Gan ddefnyddio cefndir unigryw o sain, tafluniadau fideo a hud theatrig, bydd Danny yn dod â’r straeon hyn yn fyw gyda chymorth Ciarán ac Evelyn – ynghyd â’ch mewnbwn chi, y gynulleidfa, wrth i chi gael cyfle i ofyn eich cwestiynau a rhannu eich profiadau eich hun.
Pe bai chi'n gredwr neu peidio, neu rywle rhwng y ddau, mae croeso i bawb.
Felly... ydych chi’n meiddio camu i mewn i’r tywyllwch?
The audio king of true-life scary talesThe Observer
A latter day Alfred HitchcockRadio Times

Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?
Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!
Cliciwch Yma!