Sherlock Holmes and the Hunt for Moriarty

See dates and times  

5 Stars

Northern Arts Review

5 Stars

London Fringe Theatre Reviews
Archebu i aeolodau o 21 Hydref: : Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 28 Hydref

5 Stars

A masterclass in acting... a must for all fans of the great detective
Northern Arts Reviews

5 Stars

A thrilling descent into a world of intrigue and deception
London Fringe Theatre Reviews

“When you have one of the first brains of Europe up against you, and all the powers of darkness at his back, there are infinite possibilities”

Llundain, 1901. Wrth i’r Ymerodraeth Brydeinig gynnal rhyfel yn enw Brenhines y mae ei hiechyd yn gwaelu, mae cyfres o ddigwyddiadau dirgel yn datgelu crac yng nghoridorau uchel pŵer. Crac sy'n bygwth dadsefydlogi'r frenhiniaeth, y llywodraeth a'r Ymerodraeth. Ac yn ei ganol, yn rheoli llif gwybodaeth a dylanwad, mae ffigur brith yn cynllunio symudiad marwol olaf.

Wedi'u tynnu i mewn i'r gêm ac yn ansicr ynghylch pwy i ymddiried ynddo, mae Sherlock Holmes a Dr. Watson yn gorfod wynebu ffigurau o'u gorffennol mewn ras anobeithiol yn erbyn amser, yn ymwybodol y gallai'r person mwyaf pwerus yn y byd fod ym mhoced un o'r rhai mwyaf llygredig. Ond faint yn union mae Holmes yn fodlon ei aberthu wrth iddo wynebu 'checkmate'?

Antur gyffrous yn seiliedig ar waith Syr Arthur Conan Doyle. Mae Sherlock Holmes: The Hunt for Moriarty yn premiere byd sy'n cyfuno perfformiadau pwerus, seinwedd atgofus a chynllun arloesol ar gyfer profiad theatrig cyffrous.