Archebu i aeolodau o 21 Hydref: : Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 28 Hydref
Straeon y sêr yn cael eu hadrodd i drac sain electro-acwstig.
Ailgread mawreddog, agos atoch chi a hypnotig o fythau a chwedlau Groegaidd wedi'u plethu â straeon hynafol, tafluniadau cosmig a seinwedd electro-acwstig sy'n gyrru ias i lawr yr asgwrn cefn.
Cewch eich cludo i awyr y nos ar anadl straeon sydd wedi goleuo'r tywyllwch ers miloedd o flynyddoedd. Mae mythau Groegaidd am gytserau’n cael eu bywiogi'n ddisglair gan ddau o gewri adrodd straeon y DU, Hugh Lupton a Daniel Morden. Cyfle i brofi straeon pwerus, hynafol gyda seinwedd electro-acwstig gyffrous gan y cyfansoddwr Sarah Lianne Lewis a thafluniad cosmig. Cewch blymio i antur gyfareddol a gwirioneddol hudolus. Bod yn dyst i’r duwiau’n chwarae’n ddidrugaredd gyda meidrolion gyda straeon am chwant, balchder ac angerdd a fydd yn gwneud i chi ddyheu am ddarganfod mwy…
Mae siwrnai epig drwy awyr y nos yn dod â phersbectif cosmig, tragwyddol i helbulon dynol, gan gynnig cysur y mae ei wir angen ar gyfer ein hoes.
Wedi'i greu gan Daniel Morden, Hugh Lupton, Sarah Lianne Lewis ac Adverse Camber.