Irving Berlin's Top Hat Gradd PG.

See dates and times  

Yn seiliedig ar y glasur o ffilm RKO o 1935 gyda Fred Astaire a Ginger Rogers yn serennu, mae Top Hat yn goctel rhamantus pefriog gyda chomedi ffraeth, coreograffi syfrdanol a gwychder dawnsio tap, a’r cyfan yn dod yn fyw ar y llwyfan gyda setiau moethus a gwisgoedd godidog. Mae sgôr ryfeddol Irving Berlin yn cynnwys rhai o ganeuon gorau Hollywood, gan gynnwys yr anfarwol Cheek to Cheek, Let’s Face the Music and Dance, Top Hat White Tie and Tails a Puttin’ on the Ritz.

Gwisgwch eich het silc, tynnu’r llwch oddi ar eich siwt orau a gadael i'r gomedi gerddorol ramantus a llawen yma eich sgubo chi oddi ar eich traed!