Royal Opera: CARMEN

See dates and times  

The Royal Opera

Carmen [Adfywiad]

Yng ngwres llethol haul Sbaen, mae Carmen, merch ffyrnig o annibynnol, yn denu sylw Don José. Mae hi'n ei rybuddio i beidio â syrthio mewn cariad â hi, ond does dim ffiniau i’w obsesiwn.

Mae cynhyrchiad tanbaid Damiano Michieletto yn dychwelyd, gan daflu goleuni eirias ar chwant, trais a dyhead dinistriol opera fythol boblogaidd Bizet.

Mae cast llawn sêr yn dod â'r ddrama wynias yma’n fyw, gyda Ginger Costa-Jackson yn y rôl deitl danllyd, ochr yn ochr â Russell Thomas fel Don José genfigennus ac anobeithiol. Ar ôl gweithio am y tro cyntaf gyda’r Royal Opera yn 2023, mae Sesto Quatrini yn dychwelyd i arwain sgôr drydanol a nwydus Bizet.

Cast:

Carmen
GINGER COSTA-JACKSON
Don José
RUSSELL THOMAS
Micaëla ADRIANA GONZÁLEZ
Escamillo ALEXANDER VINOGRADOV
Zuniga
BARNABY REA

Tîm Creadigol:

Cerddoriaeth GEORGES BIZET
Libretto
HENRI MEILHAC, LUDOVIC HALÉVY
Arweinydd
SESTO QUATRINI
Cyfarwyddwr
DAMIANO MICHIELETTO
Cynllunydd Set
PAOLO FANTIN
Cynllunydd Gwisgoedd CARLA TETI
Cynllunydd Goleuo ALESSANDRO CARLETTI
Dramatwrg ELISA ZANINOTT