The Shawshank Redemption

Past Production

See dates and times  

5 Stars

Theatre and Arts Reviews

5 Stars

Fairy Powered Productions

5 Stars

A five-star triumph
Insight Reviews

5 Stars

simply amazing!
Stageside UK

Y sioe lwyfan arobryn o hoff ffilm y genedl.

Er iddo brotestio ei ddiniweidrwydd, mae Andy Dufresne yn cael dedfryd oes ddwbl am lofruddiaeth greulon ei wraig a’i chariad. Wedi'i garcharu yng nghyfleuster drwg-enwog Shawshank, mae'n dysgu'n gyflym na all unrhyw un oroesi ar ei ben ei hun.

Mae Andy yn creu cyfeillgarwch annhebygol gyda ‘threfnydd’ y carchar, Red, ac mae pethau’n cymryd tro bach er gwell. Ond pan mae Warden Stammas yn penderfynu bwlio Andy i waseidd-dra a chamfanteisio ar ei ddoniau cyfrifyddiaeth, mae cynllun beiddgar yn cael ei gynllwynio’n dawel bach.

Yn seiliedig ar nofel Stephen King o 1982, mae'r sioe gyffrous yma’n archwilio anobaith, anghyfiawnder, cyfeillgarwch a gobaith y tu ôl i fariau clawstroffobig cyfleuster diogelwch.

Gydag enillydd Strictly Joe McFadden, Bill Ward (Emmerdale, Coronation Street) a Ben Onwukwe (London’s Burning) yn serennu.