My Mix(ed Up) Tape

See dates and times  

Archebu i aeolodau o 21 Hydref: : Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 28 Hydref

Mae Phoebe yn ôl adref yn y Cymoedd ac yn cael ei gorfodi i fynychu priodas ei chyfnither, Caroline. Y tu mewn i Wedding-O-Dreams Clwb y Gweithwyr, mae pethau eisoes yn dadfeilio - mae'r bownser wedi'i gwahardd hi’n barod, mae Caroline yn benderfynol o wneud Phoebe yn broblem, ac ie - Jamie “Neck Licker” Richards yw brenin y negyddiaeth o hyd.

Ond mae heno'n wahanol. Rhwng y bwffe amheus, y cellwair creulon a’r wleidyddiaeth deuluol, mae Phoebe jyst yn ceisio goroesi'r noson. Ond mae mwy yn digwydd na hen fflamau a hen ddrwgdeimladau. Tu ôl i’r ddiod a'r bangars, mae hi'n cario pwysau cyfrinach - ac yn hwyr neu'n hwyrach, mae'n mynd i gael ei datgelu.

Nid stori daclus am "fynd adref" sydd yma. Mae'n amrwd, yn anghwrtais, ac yn rhwygo'r distawrwydd o amgylch dicter benywaidd, llanast teuluol, a'r celwyddau rydyn ni'n eu dweud i oroesi.

Yn cael ei hadrodd trwy dâp cymysg o atgofion a thraciau eiconig, mae My Mix(ed up) Tape yn ddrama newydd ddoniol, llawn egni am hunaniaeth, dosbarth, cynddaredd a pherthyn yn y Gymru fodern.

Mae My Mix(ed up) Tape wedi cael ei hysgrifennu ac yn cael ei pherfformio gan Katie Payne(MUMFIGHTER – Grand Ambition, CROW GIRL - Amazon), gyda set DJ fyw gan DJ ONAI. Wedi'i chyfarwyddo gan y cyfarwyddwr arobryn, Stef O’Driscoll(Paines Plough, nabokov).