Archebu i aeolodau o 21 Hydref: : Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 28 Hydref
Rhyfeddod gwirioneddol... gwylio hanfodol i bobl a phypedau ym mhobmanTotal Theatre
Mae Meet Fred yn ddarn o theatr athrylithgar, doniol ac yn un na ddylech ei golli.Broadway Baby
Ddegawd yn ôl, fe aeth pyped dwy droedfedd o daldra ati i herio'r byd - ac mae'n dal i ymladd.
Ar ôl teithio i fwy nag 20 o wledydd a diddanu miloedd o gynulleidfaoedd, mae Meet Fred yn dychwelyd i'r DU ar gyfer taith ei 10fed pen-blwydd.
Mae'r cynhyrchiad tywyll, hynod ddoniol a byd-enwog yma’n dilyn Fred, pyped brethyn sy'n ceisio byw bywyd cyffredin - cael swydd, dod o hyd i gariad, bod yn rhan o gymdeithas. Ond gyda'i Lwfans Byw Pypedwaith dan fygythiad, mae byd Fred yn mynd allan o reolaeth.
Sut mae dal gafael ar annibyniaeth pan mae’r system wedi'i chynllunio i dynnu'r llinynnau?
Gyda ffraethineb crafog, dychan gwleidyddol miniog ac eiliadau o dynerwch annisgwyl, mae Meet Fred yn gomedi na ddylech chi ei cholli y mae cynulleidfaoedd ledled y byd wedi uniaethu â hi.
Wedi'i chreu gan y cwmni theatr cynhwysol arobryn, Hijinx, mae'r sioe'n cynnwys cast rhagorol o berfformwyr gydag a heb anableddau dysgu (a / neu Awtistiaeth), y mae eu profiadau bywyd yn cyfrannu dyfnder a dilysrwydd at frwydr Fred. Gan ddathlu 10 mlynedd o wneud i gynulleidfaoedd chwerthin, ebychu ac ailfeddwl am y byd o'u cwmpas, mae Meet Fred mor bwysig a pherthnasol heddiw ag erioed.
Yn cynnwys iaith gref a noethni pypedau.
Bydd capsiynau Cymraeg a Saesneg ym mhob perfformiad.