Glorious

See dates and times  

5 Stars

The Daily Telegraph

4 Stars

The Stage
Archebu i aeolodau o 21 Hydref: : Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu iโ€™r cyhoedd o 28 Hydref

4 Stars

witty and joyful
Musical Theatre Review

5 Stars

Blissfully funny
The Daily Telegraph

4 Stars

Heartfelt
The Stage

Wedi'i galw'n 'y gantores waethaf yn y byd', mae Glorious! yn adrodd stori wir y socialite Americanaidd Florence Foster Jenkins, a oedd yn adnabyddus am ei gwisgoedd lliwgar, ei pherfformiadau enigmatig a'i llais oedd yn bendant allan o diwn.

Bydd y gomedi lwyddiannus oโ€™r West End, sydd wedi ennill bri y beirniaid, yn teithio ledled y DU o fis Chwefror 2026 ymlaen. Mae'r daith yn dathlu pen-blwydd y sioe yn 20 oed. Fe swynodd Glorious! gynulleidfaoedd yn ei chynhyrchiad hirhoedlog gwreiddiol yn y West End a enwebwyd am Olivier. Gwelwyd Maureen Lipman yn serennu ynddi yn 2005 ac wedyn, ar y sgrin fawr, Meryl Streep a Hugh Grant, etoโ€™n serennu mewn ffilm a alwyd, yn syml, gan y beirniad, yn โ€œGlorious!โ€ Ers hynny, mae'r sioe wedi cael ei gweld gan filiynau o bobl ledled y byd, wedi'i chyfieithu i 25 o ieithoedd, a'i pherfformio mewn 36 o wledydd.

Gyda Wendi Peters (Coronation Street) yn serennu fel Florence, cafodd y gomedi hyfryd yma adolygiadau gwych yn ystod ei rhediad yn Theatr Hope Mill ym Manceinion.

Mae Glorious! wedi'i hysgrifennu gan Peter Quilter (End of the Rainbow a'r ffilm, Judy) a'i chyfarwyddo gan Kirk Jameson (Song From Far Away, Madagascar the Musical).