Mae comedi lwyddiannus a phoblogaidd y BBC, GHOSTS, yn dod i’r sgrin fawr ar gyfer Calan Gaeaf eleni. Mae sêr, awduron a chrëwyr GHOSTS, sef Mathew Baynton, Simon Farnaby, Martha Howe-Douglas, Jim Howick, Laurence Rickard a Ben Willbond – yn dychwelyd, ochr yn ochr â Lolly Adefope, Charlotte Ritchie a Kiell Smith-Bynoe, mewn antur deuluol mewn ffilm lawn.



