Mae myfyrwyr o ysgolion celfyddydau perfformio Theatretrain yn yr Wyddgrug, Wrecsam, Prestatyn a Chaer yn cyflwyno eu cynyrchiadau o sioe gerdd glasurol Rodgers a Hammerstein. Mae'r addasiad gofalus yma’n cadw'r holl ganeuon adnabyddus ac yn adrodd y stori mewn fersiwn sy'n addas ar gyfer perfformwyr iau. Yn cynnwys "Oh. What A Beautiful Mornin’", "I Cain’t Say No" ac "Oklahoma". Mae pum cast gwahanol drwy gydol yr wythnos i arddangos y dalent o bob cwr o'r rhanbarth.



