Mae Tip Top Productions yn dychwelyd gyda The Great British Bake Off Musical. Yn seiliedig ar y rhaglen deledu boblogaidd, rydyn ni’n dilyn siwrnai grŵp o gystadleuwyr wrth iddyn nhw chwisgio, tylino a phobi eu ffordd i ogoniant, a hynny i gyd gerbron llygaid craff beirniaid a chyflwynwyr sydd wedi dod yn enwau cyfarwydd iawn.
Gyda chymysgedd o ganeuon gwreiddiol sy’n dal ysbryd y babell Bake Off - o heriau technegol llawn tyndra i showstoppers bendigedig - mae’r sioe gerdd yma’n creu profiad bywiog a chyfranogol. Byddwch yn barod am rolyrcostyr o emosiynau wrth i gyfeillgarwch ffurfio, cacennau chwalu, a breuddwydion ddod yn wir.

Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?
Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!
Cliciwch Yma!



