Phoebe Waller-Bridge
Actores, awdur a chynhyrchydd o Loegr yw Phoebe Waller-Bridge. Mae hi wedi dod yn un o ffigurau llenyddol enwocaf y DU, gyda’i gwaith llwyfan a sgrin wedi ennill canmoliaeth a bri eang gan feirniaid a chynulleidfaoedd ledled y byd. Perfformiwyd Fleabag am y tro cyntaf yn 2013 yng Ngŵyl Fringe Caeredin, lle enillodd Wobr Fringe First. Ers hynny mae Phoebe wedi perfformio'r ddrama mewn nifer o rediadau ledled y byd, o Efrog Newydd i Dde Corea. Yn dilyn ei phoblogrwydd ar y llwyfan, addaswyd sioe Fleabag ar gyfer y teledu a rhedodd am ddau dymor, gan ennill chwe Gwobr Emmy, dwy Golden Globe a dwy wobr BAFTA. Mae Phoebe hefyd yn adnabyddus am gomedi sefyllfa Channel 4, sef Crashing, Killing Eve ar BBC America, ac am gydysgrifennu'r 25ain ffilm James Bond, No Time to Die.