Leah Gaffey
Actores o ogledd Cymru ydi Leah a astudiodd Theatr a Pherfformio yng Ngholeg Goldsmiths, Prifysgol Llundain a hyfforddi gyda Chwmni Rep NYT.
Mae hi’n ymarferydd gair am air ac roedd yn rhan o dîm creadigol y sioe theatr a sicrhaodd glod y beirniaid, Our Generation, yn 2022 a ysgrifennwyd gan Alecky Blythe (“Top 10 Theatre Shows of 2022” The Guardian). Roedd Leah yn un o gasglwyr y prosiect yma, gan ddilyn bywydau dau berson ifanc o Ynys Môn am chwe blynedd. Fe gamodd hi hefyd i chwarae rhan ‘Mia’ ar y funud olaf un yn ei hymddangosiad cyntaf yn y National Theatre.
Chwaraeodd Leah ran Puck mewn fersiwn dwyieithog o A Midsummer Night’s Dream yn Theatr y Sherman yn 2022, cynhyrchiad a dderbyniodd adolygiad pum seren gan The Stage ac a oedd yn cynnwys cyfeiriad arbennig at yr actores; “Leah Gaffey’s unflinchingly likeable Puck provides the mischief and errors that plunge the characters into a world of ridiculousness.” Rhestrwyd y sioe hefyd fel un o’r 50 o sioeau gorau gan The Stage yn 2022.
Mae ei gwaith theatr yn cynnwys; A Midsummer Night’s Dream (Theatr y Sherman); Our Generation (National Theatre); Llyfr Glas Nebo (Frân Wen); Little Red Riding Hood (prif ran) (Theatr y Sherman); Jekyll & Hyde, Mrs Dalloway, Othello a The Fall (Ambassador’s Theatre); Mood Kill a Known (Snippet Theatre Company); Mrs Reynolds a’r Cena Bach (Theatr Genedlaethol Cymru).
Mae ei gwaith teledu yn cynnwys; Mabinogi-Ogi a Mwy, BBC Bitesize, Stwnsh Sadwrn, Potsh, Ddoe Am Ddeg, and Talcen Caled.
Mae ei gwaith ffilm yn cynnwys; Gwenhwyfar (prif ran) (Mabinogi-ogi)
Mae ei gwaith sain yn cynnwys; The End of The Line.