
CLWB CREU FFILMIAU (11 - 16 oed)
Bob nos Iau (16 Ebr - 21 Mai)
Goleuadau. Camera. Creu!
Oes gennych chi stori i'w hadrodd? Yn chwilfrydig am sut mae ffilmiau'n cael eu gwneud?
Ymunwch â'n Clwb Creu Ffilmiau ni sy'n rhaglen 6 wythnos hwyliog ac ymarferol lle bydd pobl ifanc yn dysgu hanfodion creu ffilmiau ac yn creu eu microffilm fer eu hunain o'r dechrau i'r diwedd.
Y Diweddglo Mawr
Erbyn diwedd y 6 wythnos, bydd pob grŵp wedi creu eu microffilm eu hunain, yn dathlu popeth maen nhw wedi'i ddysgu - perffaith i'w rhannu gyda ffrindiau a theulu!
Does dim angen unrhyw brofiad — dim ond brwdfrydedd a dychymyg!
16 Ebrill - 21 Mai 2026
Beth Fyddwch Chi'n ei Ddysgu
Dros gyfnod o chwe wythnos, bydd y cyfranogwyr yn:
- Dysgu gwybodaeth sylfaenol am y diwydiant ffilmiau
- Archwilio lluniau camera, onglau a symudiad
- Defnyddio offer ffilmio sylfaenol yn ddiogel ac yn hyderus
- Datblygu syniadau drwy fwrdd-storïo a chynllunio
- Gweithio fel tîm i gynhyrchu syniadau creadigol
- Ffilmio a chwblhau microffilm erbyn yr wythnos olaf
Y Sgiliau y Byddwch Chi'n eu Meithrin
- Creadigrwydd ac adrodd straeon
- Gwaith tîm a chyfathrebu
- Hyder a datrys problemau
- Sgiliau creu ffilmiau ymarferol
Pryd a Ble
- 16 Ebrill - 21 Mai 2026
- Bob nos Iau yn Theatr Clwyd
- 5:00pm – 7:00pm
- Rhaglen 6 wythnos
- Yn caeu ei dysgu gan ein dau gyswllt yn Theatr Clwyd
Gysylltiadau Creadigol
Fe ddechreuodd Sam yn y byd cynhyrchu teledu gan weithio fel cynorthwy-ydd cynhyrchu i'r BBC ar ddrama deledu, ac wedyn aeth yn ei flaen i fod yn yrrwr cynhyrchu ar gyfer 'Justins House' gan CBeebies. Gweithiodd Sam hefyd fel D.I.T (Technegydd Delweddu Digidol) ar gyfres gomedi a oedd wedi'i lleoli yn Swydd Efrog. Mae Sam wedi gweithio'n rheolaidd fel OP camera a golygydd ar gyfer prosiectau lleol llai ym mhob rhan o Theatr Clwyd.
Fe ddechreuodd Charlotte fel Actores gan weithio yn y byd teledu i'r BBC a Channel 4 ac amrywiol ffilmiau yn y DU. Yn nes ymlaen, fe ddechreuodd Charlotte yn y byd cynhyrchu fel cyfarwyddwr castio cynorthwyol ar gyfer hysbysebion, dramâu teledu a ffilmiau yn Llundain. Wedyn symudodd i weithio fel rhedwr ar leoliad ac mewn stiwdios a chafodd ei chymryd o dan adain yr adran gelf am gyfnod gan weithio fel cynorthwy-ydd props a chynorthwy-ydd gwisgo set. Penderfynodd Charlotte symud i ochr y swyddfa gynhyrchu yn y byd teledu a ffilm fel rheolwr cynhyrchu ac wedyn symud i fyny i rôl Uwch Gynhyrchydd gan weithio i gwmnïau fel HBO, SKY, The Gate Studios, Gleam Futures ac amrywiol gwmnïau eraill.