Ymunwch â ni am noson arbennig yn dathlu 50 mlynedd o Eleni a phum degawd o ddawnsio cymunedol cynhwysol ledled Gogledd Ddwyrain Cymru.
Dan yr enw NEW Dance yn flaenorol, mae Eleni wedi treulio 50 mlynedd yn dod â phobl at ei gilydd drwy ddawns, creadigrwydd a chysylltiad. Ar draws cenedlaethau, mae'r sefydliad wedi gweithio gyda chyfranogwyr, ymarferyddion, artistiaid, grwpiau cymunedol a phartneriaid, gan greu cyfleoedd i bobl brofi dawns mewn ffyrdd sy'n gynhwysol, yn greadigol ac yn ystyrlon.
Bydd Eleni 50 yn dod â gorffennol, presennol a dyfodol y sefydliad at ei gilydd mewn un noson o ddathlu yn Theatr Clwyd.
Gall y gynulleidfa ddisgwyl cymysgedd o berfformiadau byw, dawnsio wedi’i ffilmio, deunydd archif, cyfweliadau, straeon ac adlewyrchu personol, gan ddathlu'r nifer fawr o bobl a’r cymunedau sydd wedi bod yn rhan o siwrnai Eleni.
Yn ogystal â gwaith newydd, bydd y noson yn edrych yn ôl drwy archif Eleni, gan rannu atgofion, ffilmiau a straeon o'r pum degawd diwethaf, a hefyd yn adlewyrchu ar sut ddyfodol ddylid ei sicrhau i ddawnsio cymunedol cynhwysol.
Wrth galon Eleni 50 mae dathliad o bobl, creadigrwydd a chysylltiad – gan gydnabod pawb sydd wedi cymryd rhan, perfformio, dysgu, cefnogi, cydweithredu neu gyfrannu at Eleni drwy gydol ei hanes.
Os ydych chi wedi bod yn rhan o Eleni neu NEW Dance yn y gorffennol, yn ymwneud heddiw, neu'n darganfod y sefydliad am y tro cyntaf, byddem wrth ein bodd pe baech yn ymuno â ni ar gyfer y garreg filltir arbennig yma.
Oeddech chi'n rhan o Eleni neu NEW Dance?
Fel rhan o ddathliadau'r 50fed pen-blwydd, rydyn ni’n parhau i gasglu atgofion a deunydd archif gan bobl sydd wedi bod yn gysylltiedig ag Eleni neu NEW Dance.
Os oes gennych chi ffotograffau, ffilmiau, rhaglenni, posteri, straeon neu atgofion yr hoffech eu rhannu, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi
Cysylltwch ag [email protected]


