Yn seiliedig ar fonodrama enwog a chanmoladwy Gary Owen, Iphigenia in Splott, mae Effi o Blaenau yn ddehongliad sinematig gan y cyfarwyddwr Marc Evans, wedi’i osod yn erbyn tirweddau eang Gogledd Cymru.
Wrth i Effi ddygymod â’i chylch wythnosol o ddiweithdra, clybio, a chur pen, mae’n digwydd cwrdd â Lee, milwr wedi’i anafu, mewn clwb nos yn Llandudno, sydd am eiliad yn agor y drws i rywbeth gwell. Am funud, mae Effi’n cael cipolwg ar fywyd na fuasai hi erioed wedi’i ddychmygu. Mae’r realiti sy’n dilyn yn llawer anos.
Sesiwn Holi ac Ateb wedi'i recordio gyda'r cyfarwyddwrMarc Evans a Leisa Gwenllian Effi
4 Gorff | 8yh
