Tocynnau i aelodau ar werth 16 Mehefin
Tocynnau i’r cyhoedd ar werth 23 Mehefin
Mae sŵn rhywle arall a phot planhigyn cyson a hollbresenoldeb ymadrodd a byrder torcalonnus amser hir iawn. Mae ffigys a phryfed genwair a hen gi sy’n gwrthod blanced. Mae menyw, ar drên, yn gwisgo bathodyn. Mae bîp cyntaf larwm mwg ac mae cenhinen Bedr ym mis Rhagfyr ac wrth gwrs, cyflwr ffrwythau. Mae llaw yn y gwely ac mae stwff ar y grisiau ac mae marc ar fy siwmper i ac mae coeden enfawr mewn storfa ar fferm yng Nghaint. Does dim byd i'w ddweud ac mae'r meddwl am bydru ac mae enw teimlad ac mae arogl tybaco. Mae deuddegfed llawr gwesty a phen pellaf platfform yng ngorsaf drenau Tamworth. Mae dyletswydd i weithredu ac mae gwrthwynebiad i dwf ac mae lle newydd i fyny'r ffordd ac mae rheolydd sain cwbl ddiangen. Mae toiled yn Hong Kong a siop goffi ym Melbourne a golau'n mynd drwy adeilad a mynd ati’n fwriadol i wneud pethau'n llawer anoddach na sydd angen iddyn nhw fod mewn gwirionedd.
Ac.
Mae cerddoriaeth drwy’r sioe i gyd, fwy neu lai, dau lais doniol o leiaf a mwy na thair jôc.
Sioe Gomedi Newydd gan Daniel Kitson.
