Gŵyl Animeiddio Caerdydd Yn Cyflwyno: GWAITH O GYMRU
Ffilmiau Byrion Animeiddiedig Wedi’u Creu yng Nghymru / gan Wneuthurwyr Ffilmiau o Gymru
Arddangosfa gyfoethog ac amrywiol o dalent animeiddio yng Nghymru heddiw.
Mae'r 11 o ffilmiau byrion animeiddiedig newydd sbon yma gan artistiaid o Gymru ac artistiaid sy'n gweithio yng Nghymru yn cwmpasu siwrneiau personol, comedi swreal, mytholeg a straeon sy'n cael eu hysgogi gan y dirwedd. O waith stop-symud a ffilmiau cyntaf arbrofol i ffilm fer sydd wedi cyrraedd rhestr hir BAFTA – mae Gwaith o Gymru yn dathlu amrywiaeth ryfeddol o leisiau, technegau, arddulliau a straeon. Ar ôl y dangosiad, ymunwch â'r tîm o Wyl Animeiddio Caerdydd i gymryd rhan mewn gwaith animeiddio cydweithredol.
