Mae cynhyrchiad Aardman ar gyfer Sony Pictures Animation, o'r diwedd, yn datgelu'r ateb anhygoel sydd heb ei roi erioed o'r blaen i gwestiwn pob plentyn: 'Felly sut mae Siôn Corn yn dosbarthu'r holl anrhegion mewn un noson?'
Yr ateb: system wefreiddiol, hynod dechnolegol Siôn Corn, sydd wedi'i chuddio o dan Begwn y Gogledd. Ond wrth galon y ffilm mae stori sydd â'r holl gynhwysion sydd eu hangen ar gyfer clasur Nadolig – teulu sydd mewn cyflwr o anhrefn doniol ac arwr annhebygol o'r enw Arthur, sydd â chenhadaeth frys y mae'n rhaid ei chwblhau cyn i fore'r Nadolig gyrraedd.



