Faint fyddech chi'n ei dalu am baentiad gwyn? A fyddai'n bwysig i chi pwy oedd yr arlunydd? A fyddai'n "gelf"?
Mae un o ffrindiau gorau Marc, Serge, newydd brynu paentiad drud iawn. Mae tua phum troedfedd wrth bedair troedfedd, i gyd yn wyn gyda llinellau lletraws gwyn. I Marc, mae'r paentiad yn jôc, ond mae Serge yn mynnu nad oes gan Marc y safon briodol i farnu'r gwaith. Mae ffrind arall, Ivan, sydd â’i broblemau ei hun yn pwyso’n drwm arno, yn gadael iddo'i hun gael ei lusgo i mewn i'r anghydfod yma. Yn awyddus i blesio, mae Ivan yn dweud wrth Serge ei fod yn hoffi'r paentiad. Mae dadlau ffyrnig ac mae'r hen ffrindiau’n dal eu tir a’u safbwynt am y canfas, gan ei ddefnyddio fel esgus i herio ei gilydd yn ddidrugaredd am wahanol fethiannau.
Perfformiwyd cyfieithiad Christopher Hampton o ‘Art’ gan Yasmina Reza, sydd wedi ennill sawl gwobr, am y tro cyntaf yn y Wyndham Theatre yn Llundain ar 15 Hydref 1996. Wedi'i gyfarwyddo gan Matthew Warchus, roedd y cynhyrchiad yn cynnwys Albert Finney, Tom Courtenay a Ken Stott. Ar 1 Mawrth 1998, perfformiwyd y ddrama am y tro cyntaf ar Broadway yn y Royale Theatre. Wedi'i gyfarwyddo gan Warchus, roedd y cynhyrchiad ar Broadway yn cynnwys Alan Alda, Victor Garber ac Alfred Molina.
Agor oriel o luniau



Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?
Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!
Cliciwch Yma!



