Archebu i aeolodau o 13 Hyd: Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 20 Hyd
Mae Kelly, gofalwr dementia yn y Rhyl (a merch i ddau berfformiwr sy'n dynwared Tom Jones), yn rhagorol yn ei gwaith.
Boed yn Edna, sy'n brathu pobl dro ar ôl tro, neu Astrid sy'n credu bod ei Nana yn fin sbwriel, mae Kelly yn gwybod yn union beth mae hi'n ei wneud. Wedi'i magu'n falch ar ClubLand, waltzers a hafau’n snogio sgowsars, mae hi'n wallgof ar ôl dod i wybod bod ei ffrind gorau’n gadael i fynd i ddinas hefo Pret. Wrth guddio ei newyddion ei hun sydd ar fin newid ei bywyd, mae pethau'n mynd allan o reolaeth iddi hi ac mae mewn perygl o golli popeth
Bydd Amnesia yn mynd â chi ar rolyrcostyr hwyliog ac emosiynol yn llawn awyrgylch clybiau nos yr haf yma.
Wedi'i hysgrifennu ac yn cael ei pherfformio gan Kimberly Hart-Simpson (Coronation Street, Brassic).

Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?
Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!
Cliciwch Yma!


