Y Consortiwm Cymraeg yn cyflwyno'r gomedi Addysgu Rita gan Willy Russell
Y ddrama a enillodd Wobr Olivier, yn y Gymraeg am y tro cyntaf erioed, wedi'i gyfieithu gan Gwawr Loader
Pan mae Rita, merch briod syโn trin gwallt, yn cofrestru ar gwrs prifysgol er mwyn ehangu ei gorwelion, does ganddi ddim syniad beth fydd diwedd y daith.
Dyw ei thiwtor sinigaidd, Frank, y bardd rhwystredig, yr academydd disglair a'r yfwr ymroddedig, ddim yn frwdfrydig iawn i gymryd Rita dan ei adain. Ond daw'r ddau i sylweddoli cymaint sydd ganddyn nhw i ddysgu oddi wrth ei gilydd.
Bydd y gomedi ddoniol a chynnes hon yn swyno cynulleidfaoedd ledled Cymru.
"Wrth wraidd y ddrama mae bod dynol sy'n awchu am rywbeth gwell, ac mae hynny'n brofiad sylfaenol a chyntefig.โ
