12 Sioe Mae’n Rhaid Eu Gweld

Rydyn ni wedi llunio rhestr o rai digwyddiadau theatr, geiriau llafar a chomedi ar-lein gwych sy’n cael eu cynnal yn ystod misoedd Chwefror, Mawrth ac Ebrill. Mae rhai am ddim, eraill yn rhad iawn, ac maent i gyd yn addo rhywbeth arbennig ac yn addas iawn i helpu i sicrhau bod amser yn mynd heibio’n gyflymach tra mae’r cyfyngiadau symud yn parhau.


#1 - Sgwrs gyda Richard Schiff

Digwyddiad Am Ddim | 27 Chwef

Mae’r actor enwog Richard Schiff yn fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Toby yn The West Wing a Dr. Aaron Glassman yn The Good Doctor. Mae ei ffilmiau’n cynnwys rhannau yn The Bodyguard, Speed, Se7en, Deep Impact, Ray a Man Of Steel. Awr yng nghwmni un o actorion llwyfan a sgrin prysuraf UDA. Y cyfan am ddim. Cliciwch yma i archebu


#2 - Sgwrs gyda Tamzin Outhwaite

Digwyddiad Am Ddim | 15 Maw

Daeth Tamzin Outhwaite i enwogrwydd yn 1998 pan ymunodd ag EastEnders fel Mel Healy a sefydlu ei hun yn fuan iawn fel un o gymeriadau mwyaf eiconig yr opera sebon. Mae ei gyrfa ar lwyfan ac ar sgrin wedi golygu ei bod wedi ymddangos yn y West End ac ymddangos mewn sioeau mor amrywiol â Doctor Who a Hotel Babylon. Cliciwch yma i archebu.


#3 - Dorian Gray (gyda Fionn Whitehead)

16 - 31 Maw | £12

Mae cast llawn sêr (sydd wrthi’n cael ei gyhoeddi!), cyfarwyddwr sydd wedi ennill gwobr Olivier ac awdur arobryn yn cyfuno ar gyfer y cynhyrchiad ar-lein yma. Fionn Whitehead yw’r actor enwog a chwaraeodd y brif ran yn ffilm lwyddiannus Christopher Nolan, Dunkirk, ac mae’n chwarae rhan y gwrth-arwr eponymaidd yn yr addasiad newydd yma o ddrama glasurol Oscar Wilde. Cliciwch yma i archebu.


#4 - Brennan Reece

27 Maw | £10

Yn un o’r sêr mawr newydd yn y byd comedi ym Mhrydain, mae Brennan wedi ymddangos ar Live At The Apollo a chafodd ei enwebu ar gyfer Gwobr y Newydd-ddyfodiad Gorau, gwobr anrhydeddus iawn, yng Ngŵyl Fringe Caeredin. Mae’n cyfuno adrodd straeon gyda llygad am linellau llawn ergydion gwych. Cliciwch yma i archebu.


#5 - Jan Blake: The Zebu

Digwyddiad Am Ddim | 26 Maw

Mae Jan Blake o Fanceinion yn un o adroddwyr straeon mwyaf blaenllaw Ewrop ac mae wedi bod yn perfformio yn fyd-eang ers 1986. Yn storïwr preswyl ar gyfer Gŵyl y Gelli, mae ei steil deinamig a hael yn dod â’i straeon yn fyw o Affrica, y Caribî, ac Arabia. Cliciwch yma i archebu.


#6 - Daliso Chaponda

20 Maw | £10

Daeth Daliso i enwogrwydd ar Britain’s Got Talent ac mae wedi mynd yn ei flaen i gael mwy na 100 miliwn o bobl yn ei wylio ar YouTube ac ysgrifennu a serennu yn ei sioe arobryn ar Radio 4, Citizen of Nowhere, ac ymddangos ar The Apprentice: You’re Fired, News Quiz a The Now Show. Cliciwch yma i archebu.


#7 - Kiri Pritchard-McLean

6 Ebr | £5

Mae’r clwb comedi digidol yn ei ôl gyda’r seren sydd wedi ennill sawl gwobr, Kiri Pritchard-McLean, sydd wedi ymddangos ar Have I Got News For You, Would I Lie To You, The News Quiz, The Now Show ac 8 Out of 10 Cats Does Countdown. Mae’n fargen enfawr am ddim ond £5. Cliciwch yma i archebu.


#8 - Dan Nightingale

2 Maw | £5

Yn un o gyfrinachau mwyaf cyffrous y byd comedi, mae Dan yn hynod ddidwyll, creadigol, gonest, annisgwyl, gwreiddiol a doniol. Os ydych chi wedi gwrando ar ei bodlediad eithriadol ddoniol, Have A Word, neu ei weld ar John Bishop's Only Joking, fe fyddwch chi’n gwybod pa mor wych ydi o. Os nad ydych chi, rydych chi’n mynd i fwynhau’n fawr. Cliciwch yma i archebu.


#9 - Everything is Absolutely Fine

15 Mai | £5

Wedi colli gweld sioeau cerdd yn ystod y cyfyngiadau symud? Wedi gwylio Hamilton filiwn ac un o weithiau? Eisiau gweld rhywbeth ychydig yn wahanol yn gerddorol? Gall y sioe gerdd gomedi yma am orbryder, gofalu a dal ati fod yn ffisig perffaith i chi. Cliciwch yma i archebu.


#10 – Sioeau Dirgel

Digwyddiadau Am Ddim | 11 Chwef ac 11 Maw

Os ydych chi’n colli mynd i weld dramâu yn rheolaidd, mae’r darlleniadau cyfrinachol yma o sioeau’n berffaith i chi. Mae’r sioeau yn y gorffennol wedi cynnwys gwaith gan Caryl Churchill, Kaite O'Reilly ac Alan Harris gyda thalent actio gorau Cymru a’r DU yn dod â’r sioeau yn fyw. Maen nhw am ddim, ond gydag argaeledd cyfyngedig – mae’r sioe ar 11 Mawrth yn y Gymraeg hefyd!

Cliciwch yma i archebu 11 Chwef | Cliciwch yma i archebu 11 Maw.


#11 - Mererid Hopwood

Digwyddiad Am Ddim | 4 Maw

Yn un o enwau mwyaf y byd llenyddiaeth yng Nghymru, mae Mererid Hopwood yn fardd ac yn awdur arobryn. Mae wedi bod yn Fardd Plant Cymru ac wedi ysgrifennu ar y cyd ag artistiaid ym mhob cwr o’r byd. Mae’r tocynnau’n gwerthu’n gyflym - Cliciwch yma i archebu.


#12 - Allan Finnegan a Lou Conran

2 Maw a 6 Ebr | £5

Yn cefnogi prif gyfranwyr gwych y clwb comedi mae rhai perlau cudd – pobl y byddwch yn brysio i ddweud wrth eich ffrindiau amdanyn nhw ar ôl y gig. O Lou Conran, un o arweinwyr gorau’r DU (os nad Y GORAU), a fydd yn arwain y gig ym mis Ebrill, ac Allan Finnegan, a ddaeth yn enwog fel y ficer a drodd yn gomedïwr ar Britain's Got Talent, i Stephen Cookson y World One-Liner Champion a’r athrylith ym maes comedi gerddorol, Amy Webber, sy’n dadansoddi genres cerddorol gyda ffraethineb doniol – byddwch yn gadael yn gallu dweud "Wnes i eu gweld nhw yn Theatr Clwyd". Cliciwch yma i archebu.