Mewn Sgwrs Gyda Tamzin Outhwaite

See dates and times  

Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb ar-lein am ddim gyda Tamzin Outhwaite a Tamara Harvey.

Bydd y sgwrs yn cael ei ffrydio’n fyw, felly efallai y bydd cyfle ichi ofyn cwestiynau!

Tamzin Outhwaite:

Gwaith yn cynnwys: New Tricks, EastEnders, Josh, Inside No.9, The Fixer, Vital Signs, Hotel Babylon, Red Cap.


I wylio ein digwyddiadau ar-lein bydd arnoch chi angen:

  • Dull o wylio cynnwys ar y rhyngrwyd – gall fod yn liniadur, ffôn neu dabled hyd yn oed!
  • Cyswllt da â’r rhyngrwyd – byddem yn argymell cyflymder lawrlwytho o 2mbps o leiaf – gallwch brofi eich cyflymder drwy fynd ar google, teipio ‘prawf cyflymder rhyngrwyd’ a chlicio ar ‘cynnal prawf cyflymder’ neu fynd i www.speedtest.net.

Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio’r porwyr diweddaraf – byddwn yn gweithio yn Chrome, Firefox, Safari, Internet Explorer neu Microsoft Edge – efallai na fydd rhai fersiynau hŷn o borwyr (mwy na 3 oed fel rheol) yn gweithio ac efallai y bydd angen eu diweddaru.

Hefyd byddem yn argymell, wrth wylio, mai dim ond un tab (neu sgrin pori) sydd ar agor. Gall bod â thabiau a sgriniau niferus ar agor achosi’r chwaraewr i fod yn arafach oherwydd y cof sydd ei angen ar gyfer yr holl dabiau (gan arafu’r cyfrifiadur).

Yn olaf, os cewch chi unrhyw broblemau, peidiwch â phoeni – cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau i ddatrys y broblem.