Hygyrchedd a Chyfleusterau

Mae celf a diwylliant i bawb. Ond os oes gennych nam neu ofyniad mynediad penodol, yn aml gall mwynhau ymweld â theatr neu ganolfan gelf fod yn fwy cymhleth na dim ond archebu tocynnau a dewis beth i'w wisgo.


Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celf ar draws Cymru i wneud pethau’n glir ac yn gyson. Rydym yn rhan o’r cynllun Hynt am ein bod yn credu ei fod yn cynnig yr arfer gorau oll i’n cwsmeriaid o ran polisi tocynnau a mynediad teg.

Mae gan y rhai sydd â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn am ddim i gynorthwy-ydd personol neu ofalydd ym mhob theatr a chanolfan gelf sy’n rhan o’r cynllun. Cliciwch yma i gael gwybod os gallwch chi neu’r person rydych yn gofalu amdano/i gael cerdyn neu cliciwch yma i wneud cais.


Bydd Bygi Cwsmeriaid Theatr Clwyd

yn darparu Gwasanaeth Gwennol rheolaidd i gwsmeriaid sy’n teimlo bod y ramp i fyny at ein cyntedd ychydig yn heriol. Yn rhedeg o 90 munud cyn perfformiad ac eto ar ddiwedd y perfformiad byddwn yn eich cludo o'r maes parcio i'n man gollwng hygyrch.

Mynediad i Gadair Olwyn

Mae Theatr Clwyd yn hollol hwylus i gadeiriau olwyn gyda ramp a drws pad cyffwrdd wrth y prif fynedfa. Ceir lifft i bob llawr, gyda thoiledau addas ar y llawr gwaelod a cyntaf. Ceir gofod ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn ym mhob un o’r lleoliadau perfformio.

Mae lle parcio i bobl anabl yn agos, gyda mannau penodol wrth du blaen yr adeilad. Mae staff bob amser yn falch o gynnig help pan fo angen. Hysbyswch y Swyddfa Docynnau o’ch gofynion wrth brynu eich tocynnau ac ewch i’r Dderbynfa pan fyddwch yn cyrraedd.

Diffyg Clyw

Mae gennym system dolen wedi eu sefydlu yn ein holl leoliadau a pherfformiadau capsiwn rheolaidd ble bydd y geiriau yn ymddangos ar sgrîn sydd wedi ei lleoli yn yr awditoriwm ar yr un pryd â’r actorion yn siarad, fel bod pobl âg amhariad clyw yn deallt yn iawn.

Os ydych angen cymorth i archebu'r seddi gorau i allu gweld y capsiynau cysylltwch â'r swyddfa docynnau os gwelwch yn dda.

Mae gennym gyfleuster negeseuon testun ar gyfer cwsmeriaid sy’n fyddar, neu gyda nam ar y clyw i allu cysylltu â ni i gadw tocynnau. Y rhif yw 07707 098902.

Nam Golwg


Sain Ddisgrifiad yw sylwebaeth sy’n disgrifio iaith y corff, mynegiant a symudiadau, gan wneud y perfformiad yn glir trwy sain.

Ar gyfer sioeau theatr mae ‘taith gyffwrdd’ am ddim o’r llwyfan ar gael 1 awr cyn y sioe i ymweld â’r set, cwrdd â’r actorion, teimlo’r propiau a’r gwisgoedd a gwella eich mwynhad.

Mae copïau o'n llyfryn tymhorol ar gael mewn print bras a braille. Am fwy o wybodaeth cysylltwch a'r Swyddfa Docynnau ( box.office@theatrclwyd.com )

Sioeau Hamddenol

Mae ein Perfformiadau Hamddenol ar gyfer oedolion a phlant Awtistig, gyda chlefyd Alzheimer, Dementia, Anableddau Dysgu ac Anhwylder Synhwyrau a Chyfathrebu.

Ceir y perfformiadau hyn eu addasu i wneud y profiad yn llai o straen ac yn fwy pleserus.

Fel arfer, bydd y newidiadau yn cynnwys: goleuadau’r tŷ ddim mor isel a’r arfer, sain ddim mor uchel, cael gwared o rai o’r effeithiau arbennig, rhai newidiadau i’r sgript, dim lleihau’r nifer o fynd a dwad yn ystod y perfformiad, ardal/ystafell penodol i ymlacio.