Theatr Clwyd yw theatr gynhyrchu fwyaf Cymru a'n nod yw gwneud y byd yn lle hapusach un ennyd ar y tro. Rydym yn gwneud hyn drwy symud pobl gyda straeon ar ein llwyfannau a thrwy roi'r gymuned wrth galon ein gwaith.

Adeiladwyd Theatr Clwyd yn 1976 i ddarparu cyfleoedd diwylliannol i bobl sy'n byw yng Ngogledd Cymru. Mae wedi bod yn fraint iโ€™n llwyfannau ni groesawu cewri fel Anthony Hopkins, Vanessa Redgrave, Timothy Dalton ac Owen Teale ymhlith eraill ac, yn 2018, roeddem yn falch iawn o ennill Gwobr Olivier am Home, Iโ€™m Darling gyda Katherine Parkinson a Richard Harrington.

Rydym bellach yn cael ein harwain gan y Cyfarwyddwr Artistig, Kate Wasserberg a'r Cyfarwyddwr Gweithredol, Liam Evans-Ford ac yn cyflawni llawer iawn o waith yn ein hadeilad i gefnogi pobl sy'n byw yn ein cymunedau. Rydym yn gweithio gyda'n bwrdd iechyd lleol ac elusennau iechyd i ddefnyddio'r celfyddydau i gefnogi iechyd meddyliol a chorfforol pobl a datblygu prosiectau pwrpasol sy'n cefnogi rhai o'r bobl sydd fwyaf ar y cyrion yn ein cymunedau ni.

Mae Theatr Clwyd bellach yn edrych tua'r dyfodol ac mae'r gwaith aruthrol ar ein llwyfannau ac yn ein hadeilad wedi cael effaith. Mae'n amser nawr i ddechrau ar raglen ailddatblygu cyfalaf a fydd yn sicrhau bod yr adeilad hwn yn cael ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Gyda chyfleusterau celfyddydol ac iechyd arbenigol a gofod penodol i ieuenctid, bydd Theatr Clwyd yn gartref i bawb yn ein cymuned ni.