Under Milk Wood

Dylan Thomas

★ ★ ★ ★ ★
"Under Milk Wood is a Magical production"
WhatsOnStage

★ ★ ★ ★ ★
"A richly imagined, visually distinctive staging"
North West End

★ ★ ★ ★
"entertaining and inclusive production"
The Guardian


To begin at the beginning…

Mae trigolion pentref Llareggub yn breuddwydio am gariad coll, cyd-longwyr wedi boddi a phriodasau aflwyddiannus.

Time passes.

Camwch i fyd egsentrig sy’n llawn rhamant, ffantasi, sgandal a chân. Cynhyrchiad doniol, cyffrous a hygyrch o ddrama eiconig y bardd, Dylan Thomas.

Theatr Clwyd

Dyddiadau perfformio

Theatr Clwyd (Mold)
16 Maw - 14 Ebr

Theatre y Torch (Aberdaugleddau)
16 - 25 Ebr

Theatr y Sherman (Caerdydd)
30 Ebr - 9 Mai

Pontio (Bangor)
14 - 23 Mai


Mynediad Integredig

Mae Under Milk Wood yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain integredig a chapsiynau. Mae hyn yn golygu bod pob sioe yn cynnwys arwyddo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a chapsiynau, wedi’u cynnwys yn rhan o ddyluniad y sioe.

Y Cwchdy

Mae'r Cwchdy’n ddarn o gelf a chymorth hygyrch ble caiff pobl â nam ar eu golwg deimlo darnau o'r set, y propiau a'r gwisgoedd. Yn ogystal â hyn, bydd sgrin yn dangos rhannau o'r sioe ble cewch weld yn agos gyda sain ddisgrifiad, er mwyn dyfnhau eich dealltwriaeth o fyd gweledol y sioe.

I wrando ar sain ddisgrifiad o’r nodiadau cyn y sioe yn eich amser eich hun i ffwrdd o’r Cwchdy, cliciwch y recordiadau sain isod.

Rhan 1 – rydym yn argymell gwrando ar hyn cyn y sioe

Rhan 2 - rydym yn argymell gwrando ar hyn yn ystod yr egwyl


Cwrdd â'r cast.

I gael mynediad at fanylion y cast a'r cymeriadau yn Iaith Arwyddion Prydain neu mewn fersiwn sain, cliciwch ar y dolenni isod.