Wythnos Profiad Gwaith ADY

Wythnos Profiad Gwaith ADY

Dydd Llun 13eg Gorffennaf 2026 – Dydd Mercher 15fed Gorffennaf 2026

Ymunwch â ni am antur fythgofiadwy am dridiau yn archwilio Theatr Clwyd! Dim ond i'r rhai 16+ oed sy'n uniaethu fel niwroamrywiol a / neu sydd ag anableddau dysgu neu anghenion dysgu ychwanegol y mae'r profiad gwirfoddoli hwn ar agor.

Dyma eich cyfle chi i wneud y canlynol:-

  • Darganfod yr amrywiaeth eang o swyddogaethau cyffrous sy'n creu’r theatr
  • Cwrdd â Thîm Theatr Clwyd
  • Archwilio’r cyfrinachau tu ôl i'r llenni gyda thaith gefn llwyfan unigryw!
  • Cysylltu a gwneud ffrindiau newydd â phobl sy'n rhannu eich hoffter chi o’r theatr

Atebwch y cwestiynau canlynol yn eich llythyr eglurhaol:-

  • Pam mae gennych chi ddiddordeb yn Theatr Clwyd?
  • Beth yw eich hobïau?

Gellir cyflwyno cais drwy glicio'r botwm 'Ymgeisio' isod

Os hoffech chi wneud cais mewn fformat arall, fel fideo neu ffeil sain, anfonwch eich cais i people@theatrclwyd.com

Os hoffech chi gael unrhyw help gyda'ch cais, cysylltwch â ni.


Manylion Ymgeisio

Mae’r ceisiadau'n cau ar ddydd Gwener 27ain Chwefror
Gweithdy Recriwtio ar ddydd Gwener 20fed Mawrth

Am fwy o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol i drafod y rôl, cysylltwch â Steve.Luckens@theatrclwyd.com os gwelwch yn dda.


0 Stars

My week was amazing! I've found out so much more about how the theatre industry works, the different teams involved and I have made some brilliant friends! I really enjoyed set construction session. I recommend applying!
Years 10 Student, June 2023