Hybiau Hyf

Dewch i gael haf o hwyl gyda ni yn THEATR CLWYD! Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth NEWYDD ac yn bendant gwneud ffrindiau newydd a magu hyder. Diddordeb yn y celfyddydau, cerddoriaeth, dawns, drama… ...Bydd pob diwrnod yn wahanol. Efallai y bydd un diwrnod yn grefftau, dawns, creu cerddoriaeth, profiadau newydd, darganfod beth yw theatr a llawer o hwyl! Byddwch yn gweithio gyda thîm anhygoel o artistiaid drwy gydol yr haf a fydd yn gwneud y profiad yma o fyd y theatr yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb. Efallai mai dim ond dod i weld beth sydd gennym ni i'w gynnig ydych chi eisiau! Cliciwch yma i gofrestru |
Key Dates...
WYTHNOS BLASU! (5 i 10 oed)
Dydd Llun 11eg Awst – Dydd Gwener 15fed Awst
11 i 4pm bob dydd
WYTHNOSAU'R HWB! (11 i 16 oed)
Dydd Llun 18fed Awst – Dydd Iau 21ain Awst
Dydd Mawrth 26ain Awst – Dydd Gwener 29ain Awst
11 i 4pm bob dydd
Cwestiynau Cyffredin • Beth mae Haf o Hwyl gyda Theatr Clwyd yn ei gynnwys? Eleni fe fyddwn yn cynnal ein rhaglen yn Theatr Clwyd, Lôn Raikes, Yr Wyddgrug, CH7 1YA! Byddwn yn cynnal gweithgareddau bob dydd dan arweiniad ein tîm gwych o artistiaid sy'n arbenigwyr mewn gweithio gyda phobl ifanc. Efallai y bydd un diwrnod yn grefftau, dawns, creu cerddoriaeth newydd, ysgrifennu creadigol, theatr dechnegol a llawer mwy o weithgareddau creadigol. Beth am roi cynnig ar rywbeth NEWYDD? Byddwch yn sicr o wneud ffrindiau newydd a magu hyder drwy gydol y tair wythnos. Rydyn ni’n credu mewn creu rhaglenni gyda phobl ifanc yn y ganolfan a byddwn yn teilwra'r prosiect yma ar gyfer a gyda'ch person ifanc chi. Mae'r prosiect yma’n cael ei gynnal mewn partneriaeth â Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint. Am fwy o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael i gyd, anfonwch e-bost atom ni i: hubs@theatrclwyd.com • Pryd mae'r gweithgarwch yn digwydd? 11 i 4pm bob dydd • Oes bwyd yn cael ei ddarparu? Byddwn yn darparu bwyd iach bob dydd i bob person ifanc! Ni fydd yn talu am hyn. Cofiwch gynnwys unrhyw ofynion o ran deiet ar y ffurflen gofrestru. • Oes opsiynau cludiant ar gael? Mae cludiant ar gael o dan amgylchiadau arbennig – anfonwch geisiadau i:- • Oes opsiynau ar gyfer cefnogaeth un i un? Oes, mae'n bwysig bod pawb yn gallu cael mynediad at y cynllun. I drefnu darpariaeth un i un ar gyfer person ifanc, cysylltwch â: heathergerrard@flintshire.gov.uk • Sut mae cofrestru?Cliciwch yma i gofrestru. Yn ddelfrydol, mae angen i weithiwr cymdeithasol y person ifanc lenwi'r ffurflen atgyfeirio. Mewn partneriaeth â Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint |
