Diffiniad:

At bwrpas y cytundeb hwn, mae “Tymor” yn cyfeirio at un o’r cyfnodau canlynol: Hydref (Medi – Rhagfyr), Gwanwyn (Ionawr – Mawrth), Haf (Ebrill – Gorffennaf).

Drwy dicio’r bocs ar ein ffurflen gais ar-lein, rydych chi’n cytuno i’n Telerau ac Amodau Hyfforddi isod, oni bai eich bod yn ein hysbysu ni o fewn 7 diwrnod gwaith i dderbyn eich cadarnhad o gynnig.

Nod Cerddoriaeth Theatr Clwyd yw cyflwyno 34 o wersi ym mhob blwyddyn academaidd. Mae tymhorau ysgol yn amrywio mewn hyd gan effeithio ar y gwersi sy’n cael eu cyflwyno mewn unrhyw un tymor. Ein gwarant ni yw y bydd hyfforddwyr cyswllt Cerddoriaeth Theatr Clwyd yn cynnig dim llai na 34 o wersi yn ystod blwyddyn academaidd lawn. Os na fyddwn wedi cyflwyno’r isafswm yma rydym yn ei warantu oherwydd absenoldeb tiwtor, byddwn yn rhoi ad-daliad pro-rata neu gredyd i chi mewn perthynas â’r diffyg ar ein gwarant, ar ddiwedd y flwyddyn academaidd fel rheol.

Nid ydym yn gallu cynnig ad-daliad na chredyd ar gyfer gwersi wedi’u colli gan fyfyrwyr, ond yr unig eithriad yw absenoldeb am 5 wythnos yn olynol oherwydd salwch, pryd bydd y ffi am 5 gwers yn cael ei had-dalu fel rheol wrth ddangos tystysgrif gan feddyg.

Dim ond ar ddiwedd y tymor y gall myfyriwr roi’r gorau i wersi, ond mae angen rhybudd o hanner tymor. Rhaid anfon y rhybudd yn ysgrifenedig ar e-bost i music@theatrclwyd.com .Ni fydd unrhyw rybudd ar lafar yn cael ei gofrestru fel hysbysiad.

Pan rydym wedi trefnu athro, byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am daliad. Efallai y byddwn yn cynnig cyfle i chi dalu drwy randaliadau ac, os felly, bydd y Cytundeb yn dod o dan delerau Deddf Credyd Defnyddwyr 1974.

Rydych chi’n dod yn rhan o Gytundeb parhaus ar gyfer hyfforddiant gyda Cerddoriaeth Theatr Clwyd. Bydd manylion y trefniadau talu wedi’u cynnwys gyda’ch anfoneb. Gallwn dderbyn taliad ar-lein, drwy gerdyn credyd a thrwy ddebyd uniongyrchol o’ch cyfrif banc. Os na fyddwch yn gwneud taliad erbyn y dyddiad sydd wedi’i nodi ar eich anfoneb, byddwn yn anfon neges atgoffa atoch chi.

Mae Cerddoriaeth Theatr Clwyd yn cadw’r hawl i adolygu’r telerau hyn o dro i dro, fel rheol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd. Bydd gennych chi opsiwn i dderbyn y telerau adolygedig neu roi’r gorau i’r gwersi os byddwn yn newid ein telerau. Os byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newid sylfaenol yn y telerau hyn nad ydynt yn addas i chi, heb roi digon o rybudd i alluogi i chi dynnu allan o’r Cytundeb erbyn y dyddiad penodol, ni fydd yn ofynnol i chi dalu ffi am unrhyw rybudd mewn perthynas â’r tymor canlynol.

Diogelu Data

Mae Cerddoriaeth Theatr Clwyd wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol. Pan rydych yn darparu gwybodaeth o’r fath, mae gan Theatr Clwyd ddyletswydd gyfreithiol i ddefnyddio eich gwybodaeth yn unol â phob deddf sy’n berthnasol i warchod gwybodaeth bersonol, gan gynnwys Deddf Diogelu Data 1998. Am ragor o fanylion, edrychwch ar ein Polisi Preifatrwydd.

Defnydd Data Trydydd Parti

Nid yw Cerddoriaeth Theatr Clwyd yn rhannu manylion personol myfyrwyr, staff na chontractwyr byth heb gael eu caniatâd penodol. Am ragor o fanylion, edrychwch ar ein Polisi Preifatrwydd.

Eich cytundeb

Drwy nodi eich manylion yn y meysydd yn y wefan, rydych yn cytuno i Cerddoriaeth Theatr Clwyd roi gwybodaeth a gwasanaethau rydych chi wedi gofyn amdanynt i chi. Am ragor o fanylion, edrychwch ar ein Polisi Preifatrwydd.

Gwersi Ar-lein – Polisi a chanllawiau

Gwersi Unigol ar Zoom

Diogelu plant a phobl ifanc

‘Diogelu yw’r weithred a gyflawnir gennym i hybu lles plant a’u gwarchod rhag niwed – mae’n gyfrifoldeb i bawb.’

Dylai pob cyswllt sicrhau bod diogelu yr un mor bwysig yn ystod gwers ar-lein â gwers wyneb yn wyneb, ac mae pob agwedd ar ein polisïau diogelu ac amddiffyn plant yn berthnasol yn y gwersi hyn. Yn ein holl waith, mae lles y plentyn/person ifanc yn hollbwysig. Mae gan bob plentyn, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, treftadaeth hiliol, cred grefyddol, cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth, hawl i warchodaeth gyfartal rhag pob math o niwed neu gam-drin.

Mae hyn yn golygu y dylech wneud y canlynol mewn perthynas â gwersi cerddoriaeth ar-lein:

a) Ymateb o ddifrif i bob amheuaeth a/neu honiad am gam-drin neu risg i blant, gan ymateb yn gyflym ac yn briodol gan ddefnyddio’r gweithdrefnau amddiffyn plant sydd wedi’u datgan ym Mholisi Diogelu Gwasanaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd.

b) Cefnogi rhannu gwybodaeth yn amserol gydag awdurdodau perthnasol, lle mae pryderon am les y plentyn.

c) Gwahodd yn bositif yr athro cerddoriaeth/pennaeth/ysgrifennydd yr ysgol/rhiant/gofalwr/rheolwr prosiect i ymweld â gwers ar unrhyw adeg.

d) Recordio’r holl wersi amser real ar zoom. Bydd y rhieni wedi llofnodi cytundeb i’r diben hwn, ond dylai pob gwers ddechrau drwy nodi bod y wers yn cael ei recordio.

Polisi a chanllawiau
  • Dylai Cysylltiadau’r Gwasanaeth Cerddoriaeth warchod eu hunain rhag cyswllt amhriodol damweiniol gyda myfyrwyr drwy gyfyngu ar eu proffiliau ar gyfryngau cymdeithasol a dim ond defnyddio eu cyfrif Zoom gyda Gwasanaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd ar gyfer y gwersi hyn gyda chod cyfarfod a chyfrinair yn cael eu darparu. Dylai’r cysylltiadau ddefnyddio’r manylion Zoom hyn ar gyfer gwersi Gwasanaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd yn unig, ac nid ar gyfer unrhyw ryngweithio cymdeithasol neu fusnes arall.
  • Bydd Rhieni/Gofalwyr yn cael gwahoddiad gan Gyswllt perthnasol y Gwasanaeth Cerddoriaeth i ymuno â’r wers a rhaid iddynt gadarnhau eu bod yn bresennol yn yr ystafell ac yn hapus i’r wers fynd rhagddi. Yn ddelfrydol, dylai’r rhiant aros yn yr ystafell, neu gerllaw, a bod wrth law i ddod yn ôl i siarad gyda’r athro ar unrhyw adeg.
  • Ar ddechrau pob sesiwn cyflwynwch eich hun gan ddefnyddio eich enw a Gwasanaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd a nodi bod y wers yn cael ei recordio i warchod lles y staff a’r cyfranogwyr. Ar ddiwedd y sesiwn, rhaid i’r rhiant allgofnodi a chadarnhau bod y wers yn dod i ben a bydd yr athro’n cau’r sesiwn.
  • Dim ond nodwedd ‘Zoom feature’ ddylid ei defnyddio i recordio a bydd yn cael ei chadw’n ddiogel ar weinyddion Theatr Clwyd ac nid ar eich dyfais bersonol.
  • Dylai Cysylltiadau’r Gwasanaeth Cerddoriaeth sefydlu dull difrifol a phroffesiynol wrth addysgu ar-lein. Rhaid pwysleisio i’r myfyrwyr a’u rhieni bod y platfform cynhadledd fideo i gael ei ddefnyddio ar gyfer y gwersi yn unig a dim ond ar yr amser penodol.
  • Dylid anfon pob gohebiaeth i e-bost y rhiant, gan anfon dolenni i’r platfformau cymeradwy i lawrlwytho ac edrych ar adnoddau.
  • Wrth addysgu ar-lein, dylai Cysylltiadau’r Gwasanaeth Cerddoriaeth wisgo’n daclus a defnyddio cefndir rhithiol priodol. Ni ddylai unrhyw weithgarwch amhriodol fod yn digwydd yn yr un ystafell, e.e. teulu’n bresennol neu deledu neu ddyfeisiau eraill i’w clywed.
  • Bydd Rhieni/Gofalwyr yn cael gwybod y dylai’r myfyrwyr wisgo dillad priodol a bod rhaid cynnal y wers mewn lle priodol e.e. ystafell fyw neu ystafell fwyta. Ni ddylai unrhyw weithgareddau eraill fod yn digwydd yn y gofod, er enghraifft, brodyr a chwiorydd yn chwarae, y teledu neu ddyfeisiau eraill i’w clywed. Yn yr achos hwn, bydd y rhiant yn cael ei alw i’r sgrin a bydd y wers yn dod i ben nes bod y sefyllfa’n cael sylw. Mae’r un peth yn berthnasol os bydd y myfyriwr yn ymddwyn yn amhriodol.
  • Bydd Cysylltiadau Gwasanaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd yn rhoi gwybod am unrhyw gamddefnydd neu broblem a amheuir i’r Cyfarwyddwr Cerddoriaeth ac yn cofnodi digwyddiad diogelwch ar-lein yn yr un ffordd ag unrhyw ddigwyddiad diogelu arall gan roi gwybod am bryderon yn unol ag unrhyw weithdrefnau diogelu.
  • Ni fydd Cysylltiadau’r Gwasanaeth Cerddoriaeth yn cymryd rhan mewn trafodaeth ar-lein am faterion personol nac yn priodoli safbwyntiau personol i Wasanaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd.



Addysgu ar-lein – Cyfarwyddyd i rieni
  • Rhaid i’r Rhieni/Gofalwyr ddarllen y polisi hwn a chytuno i’r telerau a’r amodau sydd wedi’u hamlinellu ynddo, cyn dechrau ar wersi Zoom.
  • Gallwn sicrhau’r Rhieni/Gofalwyr bod yr holl wersi ar-lein yn cynnwys yr un mesurau diogelu ar gyfer ein Cysylltiadau â’r gwersi wyneb yn wyneb, ac mae pob agwedd ar ein polisïau diogelu ac amddiffyn plant yn berthnasol yn y gwersi hyn.
  • Cynghorir Cysylltiadau’r Gwasanaeth Cerddoriaeth i warchod eu hunain rhag cyswllt amhriodol damweiniol gyda myfyrwyr drwy gyfyngu ar eu proffiliau ar gyfryngau cymdeithasol a chadw’r sesiynau ar-lein i’r amser y cytunwyd arno. Dylai’r rhieni sicrhau bod y cerddor yn deall hyn yn glir.
  • Bydd Rhieni/Gofalwyr yn cael gwahoddiad i ymuno â’r wers a rhaid iddynt gadarnhau eu bod yn bresennol yn yr ystafell ac yn hapus i’r wers fynd rhagddi. Yn ddelfrydol, dylai’r rhiant aros yn yr ystafell, neu gerllaw, a bod wrth law i ddod yn ôl i siarad â Chyswllt y Gwasanaeth Cerddoriaeth ar unrhyw adeg.
  • Ar ddiwedd y wers, rhaid i’r rhiant allgofnodi a chadarnhau bod y wers yn dod i ben a bydd Cyswllt y Gwasanaeth Cerddoriaeth yn cau’r sesiwn.
  • Bydd Cyswllt y Gwasanaeth Cerddoriaeth yn pwysleisio i’r cerddorion a’u rhieni/gofalwyr bod y platfform ar-lein i gael ei ddefnyddio ar gyfer y gwersi yn unig ac nid ar gyfer unrhyw gyswllt arall, e.e rhannu lluniau neu negeseuon cyffredinol. Bydd yr holl gyfathrebu’n digwydd drwy gyfrwng yr e-bost cymeradwy a gyda dolenni at y platfformau cynhadledd fideo cymeradwy ac i lawrlwytho a gweld adnoddau.
  • Dylai’r cerddorion wisgo dillad priodol a rhaid cynnal y wers mewn lle priodol. Ni ddylai unrhyw weithgareddau eraill fod yn digwydd yn y gofod, er enghraifft, brodyr a chwiorydd yn chwarae, y teledu neu ddyfeisiau eraill i’w clywed. Yn yr achos hwn, bydd y rhiant/gofalwr yn cael ei alw i’r sgrin a bydd y wers yn dod i ben nes bod y sefyllfa’n cael sylw. Mae’r un peth yn berthnasol os bydd y cerddor yn ymddwyn yn amhriodol.
  • Rhaid i rieni roi gwybod am unrhyw broblemau i Wasanaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd heb oedi; music@theatrclwyd.com neu 01352 406861