Ein Bwyty Newydd

Pan wnaethom ofyn i gynulleidfaoedd sut gallem wneud eu profiad yn well fyth, gofynnwyd ymhlith yr adborth sut gallem gael bwyty sydd cystal â'r cynyrchiadau o'r radd flaenaf sydd ar ein llwyfannau.

Fe wnaethom ni wrando.

Rydym yn bwriadu creu gofod croesawgar ac anhygoel nad yw’n amharu ar yr olygfa ar draws Bryniau Clwyd.

Byddwn yn gweithio gyda phartner arlwyo ac rydym wedi cysylltu â Mary Nightingale, Ymgynghorydd Arlwyo, i gael cyngor arbenigol i sicrhau bod gennym fwyty y gall pob un ohonom fod yn falch ohono.