0 Stars

“Mae’n bleser pur cael gweithio gyda thîm ysbrydoledig Theatr Clwyd ar brosiect mor hanfodol i bobl Cymru. Gyda'n gilydd rydym yn anelu at drawsnewid yr adeilad presennol yn ofod diwylliannol a chymunedol rhagorol ar gyfer yr 21ain ganrif, yn gwbl ymwybodol bod yr argyfwng hinsawdd yn gofyn am ddull pensaernïol cwbl newydd o ddefnyddio deunyddiau a charbon”
Prif ddylunydd Theatr Clwyd Steve Tompkins

Penodwyd y penseiri arobryn, Haworth Tompkins, i drawsnewid Theatr Clwyd i fod yn adeilad addas i’r 21ain Ganrif.

Does dim gwell cwmni pensaernïol i ailddychmygu ein gofod gan fod ei bortffolio yn cynnwys theatrau fel yr Everyman yn Lerpwl, y Bristol Old Vic, Canolfan Gelfyddydau Battersea, The Shed, yr Young Vic, y National Theatre a’r Royal Court.