Diwylliant mewn Cymunedau

Hygyrch i Bawb

Mae defnyddio diwylliant i newid bywydau yn greiddiol i'n hetifeddiaeth barhaus - rydym yn defnyddio ein sgiliau yn sail i drawsnewid cymdeithasol yn ein cymuned. Rydym yn edrych ar faterion cymdeithasol trwy ddysgu creadigol - mae’r Athro Sparky yn cyffroi plant am wyddoniaeth, mae Connor’s Time yn datblygu meddwl am ganlyniadau ymhlith pobl ifanc ‘mewn perygl’, ac mae’r Wythnos LAB yn meithrin dealltwriaeth sy’n pontio’r cenedlaethau drwy rannu atgofion.

Mae diwylliant yn gwneud bywydau yn well - o brisiau isel ar gyfer sioeau a chelfyddydau cynhwysol i’r teulu drwy gydol y flwyddyn, i ymgysylltu clos â grwpiau amddifadedd uchel a chymdeithasau tai, asiantaethau digartrefedd a ffoaduriaid - mae cynhwysiant diwylliannol yn helpu i bontio rhaniadau cymdeithasol ac economaidd.

Mae datblygiad crëwyr theatr yn ein cymuned yn allweddol i gynnal sector diwylliannol Cymru a’r DU. Mae llefydd creadigol diogel i awduron a chwmnïau yn cyd-fynd â phrentisiaid technegol, interniaid sy’n cael tâl, cyfarwyddwyr dan hyfforddiant a pherfformwyr sy'n dod i'r amlwg wrth feithrin rhagoriaeth artistig.

• Mynd i'r afael yn greadigol â'r heriau cymdeithasol ac addysgol cyfredol

• Mynediad diwylliannol ar draws yr holl grwpiau economaidd-gymdeithasol

• Arddangos a chefnogi'r dalent orau sy'n dod i'r amlwg ac sydd wedi’i sefydlu yng Nghymru a'r DU

0 Stars

“Roedd tair merch ifanc yn eu harddegau, oedd eisiau tarfu ar y sioe, yn gwylio o bell. Ar y cyrsion, a’r heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol yn gwybod amdanynt, aethom ati i siarad â nhw, agn eu gwahodd i wylio golygfa allweddol (a thawel iawn). Wythnos yn ddiweddarach fe ddaethon nhw i’r theatr – roedden nhw wedi colli ein gweld ni hyd y lle – nawr, gan weithio ochr yn ochr â’r gwasanaethau cymdeithasol, rydyn ni wedi sefydlu grŵp drama yn arbennig ar eu cyfer nhw.”
Cefnogodd Gwennan yn ein tîm Ymgysylltu Mold Riots, ein sioe gymunedol benodol i safle ar raddfa fawr.