Noel Davies
Mae Noel yn actor amryddawn a chyffrous sy'n dod yn wreiddiol o Borthaethwy ar Ynys Môn. Ers pan oedd yn 16 oed, mae Noel yn chwarae rhan Cai Harris yn opera sebon boblogaidd S4C, Rownd a Rownd. Mae i’w weld hefyd yn chwarae rhan Ash yn nhrydedd gyfres Itopia ar S4C. Fel actor dwyieithog, mae Noel wedi cael amrywiaeth o brofiadau perfformio yn ystod ei gyfnod yn yr ysgol uwchradd, ac mae'n awyddus i ddatblygu ei grefft ymhellach. Yn ogystal ag actio, mae’n hoff o ganu a cherddoriaeth, ac mae’n gwneud chwaraeon fel pêl-fasged, pêl-droed a rhedeg i gadw'n brysur.