Isabella Colby Browne
Dinesydd Americanaidd a fagwyd yng ngogledd Cymru yw Isabella (hi/ei). Hyfforddodd yng Ngholeg Rose Bruford cyn symud i Gaerdydd a dysgu Cymraeg, gan ennill Medal Bobi Jones fel Dysgwr y Flwyddyn yn 2024. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys: Cymrix (Arad Goch); Gwlad! Gwlad! (Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen); Julius Caesar (Taith Genedlaethol); Ble Mae’r Dail yn Hedfan/Where the Leaves Blow (Arad Goch); Under Milk Wood (Theatr Sherman); The First Three Drops (Cwmni Theatr Taking Flight). Gwaith Ffilm: A Chat About Ducks (Unit 148 Films); Elysian Fields, enwebwyd ar gyfer gwobr yr Actores Orau (FinalFrameFilms); Can The Moon Walk Me Home (Academi Frenhinol y Celfyddydau Dramatig).