Daniel Lloyd
Cyfarwyddwr, Actor-Gerddor a Chyfansoddwr Caneuon yw Daniel, a gafodd ei fagu yn Rhosllannerchrugog ger Wrecsam. Mae’n Gyfarwyddwr Cyswllt yn Theatr Clwyd ac yn artist cyswllt yn Theatr na nÓg.
Hyfforddodd Dan yn East 15 ac mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad o weithio ym myd Theatr, Ffilm, Teledu a Radio. Mae'n angerddol am hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru, a'i straeon a’i harwyr tawel.
Mae gwaith Dan fel cyfarwyddwr yn cynnwys: Hafan, Cinderella, Constellations, Cytserau, Sleeping Beauty, Truth or Dare, Mother Goose the Rock n Roll panto – y cyfan i Theatr Clwyd.
Wrecslam!, Rwan Nawr a HaHa (cyd-gynyrchiadau ysgrifennu newydd rhwng Theatr Clwyd a Theatr Cymru), Rownd a Rownd (S4C), Miss Wales (gwaith datblygu Theatr Clwyd), Without You – The Badfinger Musical, The White Feather, Arandora Star, Abertawe’n Fflam, The Butterfly Hunter, Far From The Madding Crowd (Theatr na nÓg), Toxic Whispers a Cloudbusting (ACW).
Mae ei waith theatr yn cynnwys rhediad West End o The Commitments gan Roddy Doyle yn Theatr y Palace, wedi'i gyfarwyddo gan Jamie Lloyd, Tom: The Tom Jones Musical (taith gyntaf Prydain), As You Like It (Castell Llwydlo), Some Like It Hotter (Taith Genedlaethol), Mods and Rox (Theatr Newydd Wolsey), Deffro’r Gwanwyn (Theatr Genedlaethol Cymru), Gluscabi, Melangell, The Princess and the Hunter, Me, a Giant! ac Eye of The Storm ar gyfer Theatr na nÓg, The Comedy of Errors (Gŵyl Shakespeare Stafford) a Romeo & Juliet ar gyfer Theatr Bitesize.
Mae ei waith i Theatr Clwyd yn cynnwys: Robin Hood, The Panto that Nearly Never Was, Little Shop of Horrors, The Hub, The Taming Of The Shrew, Animal Farm, Yesterday, The Suicide, Tales From Small Nations, A Midsummer Night’s Dream a 15 panto roc a rôl yn olynol gan gynnwys Sleeping Beauty, Aladdin, Robin Hood & The Babes in The Wood, Cinderella, Jack and the Beanstalk, Beauty & The Beast.
Mae ei waith teledu a ffilm yn cynnwys: Brassic (Sky), Wet Look (Channel 4), Rownd a Rownd (S4C), Y Sŵn (S4C), Muppets Most Wanted (Disney), Will (9th floor Productions ar gyfer marchnad UDA) wedi’i chyfarwyddo gan Shekar Kapoor a’i hysgrifennu gan awdur Moulin Rouge Craig Pearce, Hafiach (S4C), ASRA (S4C), Dau Dŷ a Ni, Tipyn o Stad, A470 (ITV).