Charlotte Chinn
Fe ddechreuodd Charlotte ei gyrfa fel actores ifanc yn y West End, gyda’r RSC, y BBC a llawer mwy. Aeth ymlaen i gwblhau BA Anrh mewn Actio yn Ysgol Actio Guildford ac wedyn MA yn y Central School of Speech and Drama. Yn byw yn Llundain, sefydlodd gwmni theatr newydd i awduron o'r enw back2back productions, a newidiodd ei enw yn ddiweddarach i Miller Theatre Productions. Tra oedd hi'n rhedeg y cwmni yma, daeth yn Gyfarwyddwr Artistig ac yn Rheolwr Theatr ar theatr ymylol fechan yn Camden, The Etcetera Theatre, am bedair blynedd. Wedyn mentrodd Charlotte i faes castio a gweithiodd i Gemma Sykes ac ambell unigolyn arall yn y diwydiant teledu, hysbysebion a ffilmiau cyn gweithio ar setiau wedyn yn yr adran props a chynllunio setiau. Agorodd Charlotte ei hysgol Creu Ffilmiau ei hun ar gyfer pobl ifanc yn Llundain, a'r ardaloedd cyfagos. Ymddeolodd Charlotte o actio yn 2020 ac aeth yn llawn amser i’r byd Cynhyrchu fel rheolwr cynhyrchu ac wedyn daeth yn Uwch Gynhyrchydd yn y byd Teledu. Symudodd Charlotte i fyny i Ogledd Cymru yn ddiweddar i gael ei merch ac mae bellach yn gweithio i Theatr Clwyd.