Angharad Jones
Mae Angharad Jones yn Gyswllt Creadigol yn Theatr Clwyd yn y tîm Cymunedau. Mae hi'n artist dawns lle mae ei hymarfer yn cwmpasu gwahanol gyd-destunau gan gynnwys ymarfer cymunedol, perfformio a choreograffi. Cafodd ei hyfforddiant mewn bale a dawns gyfoes yn yr Alban ac ers hynny mae wedi datblygu diddordeb mewn ymarfer byrfyfyrio. Mae hi'n gyd-gyfarwyddwr cwmni dawns fertigol a daearol 'Hedydd' ac wedi perfformio gyda VDKL ers sawl blwyddyn.