Galwad Agored am Swyddi Cynhyrchu a Thechnegol: UNDER MILK WOOD
Galwad Agored am Swyddi Cynhyrchu a Thechnegol ar gyfer Cynhyrchiad Theatr Clwyd o UNDER MILK WOOD
Rydyn ni’n gwahodd pobl i gyflwyno eu diddordeb a'u CV i'w hystyried i ymuno â'r timau Cynhyrchu a Thechnegol ar gyfer UNDER MILK WOOD, sy’n cael ei gyfarwyddo gan Kate Wasserberg ac sy’n agor yn Theatr Clwyd ac yn teithio i Theatr y Sherman, Theatr y Torch a Pontio yn 2026.
Under Milk Wood yw'r cynhyrchiad cyntaf fel rhan o fenter Craidd, cydweithrediad rhwng pum sefydliad yng Nghymru - Theatr Clwyd, Theatr y Sherman, Celfyddydau Pontio, Theatr y Torch, a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Cenhadaeth y fenter yw gwella cynrychiolaeth brif ffrwd ar gyfer a gyda gwneuthurwyr theatr Byddar, anabl a niwroamrywiol ledled Cymru. Ei nod hefyd yw ysgogi newid cadarnhaol yn y sefydliadau partner dan sylw yn ogystal â'r sector theatr ehangach.
Y swyddi sydd ar gael yw:
1. Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol (Ar y Llyfr)
2. Gweithredydd Capsiynau
3. Pennaeth Sain
4. Saer Coed y Cynhyrchiad
5. Ailoleuydd
6. Rheolwr Technegol
7. Cynorthwy-ydd Technegol
8. Peiriannydd Fideo
9. Rheolwr Gwisgoedd
10. Cynorthwy-ydd WHAM
Mae Theatr Clwyd yn creu fersiwn deithiol newydd o Under Milk Wood a fydd yn ymarfer ac yn agor yn Theatr Clwyd ac wedyn yn teithio i dri lleoliad partner. Mae'r sioe yn rhan o fenter newydd Craidd Cyngor Celfyddydau Cymru i wella cynrychiolaeth brif ffrwd ar gyfer a gyda phobl Fyddar, anabl a niwroamrywiol ledled Cymru. Ei nod hefyd yw ysgogi newid cadarnhaol yn y sefydliadau partner dan sylw yn ogystal ag o fewn y sector theatr ehangach. Mae'r cynhyrchiad yn cynnwys cast o 11.
Gwybodaeth bwysig
Dyddiadau
DYDDIADAU
Wythnos Olaf yr Ymarferion / Ffitio w/d 23ain Chwefror 2026
Ymarferion Technegol w/d 2il a 9fed Mawrth
Sioe Ymlaen Llaw Gyntaf Nos Lun 16eg Mawrth
Noson y Wasg Nos Iau 19eg Mawrth
Perfformiad Terfynol yn Theatr Clwyd Nos Sadwrn 4ydd Ebrill
DYDDIADAU’R DAITH
Theatr y Torch w/d 13eg ac 20fed Ebrill (perfformiad cyntaf 16eg Ebrill)
Theatr y Sherman w/d 27ain Ebrill a 4ydd Mai (perfformiad cyntaf 30ain Ebrill)
Theatr Pontio w/d 11eg a 18fed Mai
Tîm creadigol
Kate Wasserberg: Cyfarwyddwr
Katie Elin-Salt: Cyfarwyddwr Cyswllt a Dramodydd
Adam Bassett: Cyfarwyddwr Iaith Arwyddion Prydain
Laura Meaton: Cyfarwyddwr Symudiad
Hayley Grindle: Cynllunydd Set a Gwisgoedd
Josh Pharo: Cydgynllunydd Goleuo a Fideo a Chapsiynau
Sarah Readman: Cydgynllunydd Goleuo a Fideo a Chapsiynau
Oliver Vibrans: Cyfansoddwr
Liam Quinn: Cynllunydd Sain
Tîm y daith
Rheolwr Llwyfan y Cwmni
Dirprwy Reolwr Llwyfan
Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol (ar y llyfr)
Rheolwr Technegol Teithiol
Pennaeth Sain
Cynorthwy-ydd Technegol
Gweithredydd Capsiynau
Rheolwr Gwisgoedd
Cynorthwy-ydd WHAM
Tîm cynhyrchu
Production Manager
Production Carpenter
Relighter/Prod Lx
Video Engineer
Manylion y Swyddi
Rheolwr llwyfan cynorthwyol
Bydd y Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol (RhLlC) yn cefnogi’r ymarferion drwy ddod o hyd i brops a'u creu yn ôl yr angen o'r rhestr props. Ar gyfer cynnal a chadw props a dod o hyd i brops rhedeg yn yr ystafell ymarfer, ar y llwyfan ac ar y daith.
Bydd y RhLlC hefyd yn cefnogi’r ymarferion drwy lenwi rôl y Dirprwy Reolwr Llwyfan yn ôl yr angen, rhedeg props a dodrefn mewn rhediadau a chadw'r ystafell ymarfer yn lân ac yn daclus. Bydd y RhLlC yn cefnogi'r broses ymarfer gyda marcio ac unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl yr angen.
Yn ystod ymarferion technegol a gwisg a pherfformiadau, mae'r RhLlC yn gyfrifol am ragosod yr holl brops, cynnal gwiriad gweiddi, a chyflwyno ciwiau yn ôl yr angen o'r rhestr redeg. Bydd y RhLlC yn gweithio'n agos gyda chriw'r llwyfan i sicrhau bod yr holl newidiadau golygfa’n cael eu cwblhau'n briodol.
Bydd y RhLlC (ar y llyfr) yn dysgu galw'r sioe drwy gysgodi'r Dirprwy Reolwr Llwyfan yn ystod y rhediad yn Theatr Clwyd. Bydd y RhLlC (ar y llyfr) yn galw'r sioe yn absenoldeb annhebygol y Dirprwy Reolwr Llwyfan. Yn yr achos hwn, bydd y Cynorthwy-ydd Technegol yng ngofal plot sioe'r RhLlC.
Mae'r RhLlC yn gyfrifol am sefydlu'r ochrau ym mhob lleoliad ac am bacio'r holl brops a dodrefn mewn modd sy'n sicrhau y byddant yn teithio'n ddiogel i'r lleoliad nesaf.
Mae'r RhLlC yn gyfrifol am gynhyrchu'r beibl props ar gyfer y sioe.
Mae Under Milk Wood yn sioe Sylfaen Llyfr Gwyrdd y Theatr ac mae angen dod o hyd i'r holl brops gyda hyn mewn golwg; nid yw profiad yn y Llyfr Gwyrdd yn hanfodol a rhoddir cefnogaeth ac arweiniad yn ystod y broses ymarfer.
Bydd y RhLlC (Ar y Llyfr) yn cydymffurfio â holl bolisïau a gweithdrefnau Theatr Clwyd a bydd yn cael ei reoli gan Reolwr Llwyfan y Cwmni.
Gweithredydd Capsiynau
Bydd y Gweithredydd Capsiynau yn ymuno â'r cynhyrchiad yn ystod wythnos olaf yr ymarferion a bydd yn gweithio gyda'r Cynllunwyr Goleuo a Fideo yn yr ystafell ymarfer i ddysgu'r sioe. Wedyn bydd y gweithredydd capsiynau’n gweithredu'r capsiynau creadigol drwy Qlab ar gyfer yr ymarferion technegol a gwisg a'r holl berfformiadau.
Bydd y capsiynau ar gyfer cyfuniad o Iaith Arwyddion Prydain a Saesneg llafar.
Mae'r rôl hon yn gofyn am brofiad o sgiliau darllen Iaith Arwyddion Prydain.
Pan fydd y sioe ar daith, bydd y peiriannydd fideo’n gosod y system capsiynau creadigol yn ei lle ac yn ei throsglwyddo i'r capsiynydd i'w gweithredu. Bydd y Rheolwr Technegol Teithiol yn darparu cymorth technegol ar y safle os bydd unrhyw broblemau technegol gyda gosod y capsiynau.
Bydd y Cynorthwy-ydd Technegol yn dysgu'r plot Capsiynau yn ystod y rhediad yn Theatr Clwyd i fod yng ngofal y capsiynau rhag ofn y bydd argyfwng.
Bydd y Gweithredydd Capsiynau’n cadw at holl bolisïau a gweithdrefnau Theatr Clwyd a bydd Hannah Lobb (Pennaeth Cynhyrchu Theatr Clwyd) yn rheolwr llinell arno.
Pennaeth Sain Teithiol
Bydd y Pennaeth Sain Teithiol yn ymuno â'r cynhyrchiad yn ystod wythnos olaf yr ymarferion / wythnos ffitio. Bydd Adran Sain Theatr Clwyd yn gofalu am y cyfrifoldebau Sain Cynhyrchu ar gyfer cyfnod cynhyrchu Theatr Clwyd.
Bydd y cwmni i gyd yn gwisgo meicroffonau radio a bydd y rheolwr taith technegol a'r cynorthwy-ydd technegol yn cefnogi’r Pennaeth Sain gyda gwiriadau rigio a meicroffonau dyddiol a bydd y tîm rheoli llwyfan yn cefnogi yng nghefn y llwyfan yn ystod y sioe.
Bydd y sioe’n teithio ychydig o offer; i'w gadarnhau ar hyn o bryd ond yn debygol o gynnwys y canlynol:
• Desg Sain
• Meicroffonau Radio
• Meicroffonau Reiffl
• Rac Qlab
Bydd y Pennaeth Sain Teithiol yn gyfrifol am osod yr offer sain teithiol ym mhob lleoliad yn ogystal â diwygio a newid y PA mewnol yn ôl yr angen ar gyfer y sioe.
Bydd y Pennaeth Sain Teithiol yn gyfrifol am weithrediad sain y sioe (gan gynnwys gweithredu qlab a meicroffonau radio), gofalu am yr offer sain a sicrhau gwerthoedd cynhyrchu uchel bob amser.
Bydd y Pennaeth Sain Teithiol yn bresennol ar gyfer y gwaith ffitio a'r gwaith o adael ym mhob lleoliad ac mae hefyd yn gyfrifol am lwytho a dadlwytho'r lori yn ôl yr angen.
Bydd y Cynorthwy-ydd Technegol yn dysgu cymysgu'r sioe yn ystod y rhediad yn Theatr Clwyd er mwyn gallu darparu gwasanaeth wrth gefn brys yn ôl yr angen.
Bydd y Pennaeth Sain Teithiol yn cydymffurfio â holl bolisïau a gweithdrefnau Theatr Clwyd a’i reolwr llinell fydd Hannah Lobb (Pennaeth Cynhyrchu Theatr Clwyd).
Saer Coed y Cynhyrchiad
Bydd Saer Coed y Cynhyrchiad ar y safle ar gyfer pob gwaith gosod a bydd yn gweithio gyda'r rheolwr cynhyrchu a chriw'r lleoliad partner i sicrhau bod yr holl elfennau golygfaol yn cael eu gosod yn eu lle yn ddiogel.
Bydd Saer Coed y Cynhyrchiad yn cydymffurfio â holl bolisïau a gweithdrefnau Theatr Clwyd a’i reolwr llinell fydd Hannah Lobb (Pennaeth Cynhyrchu Theatr Clwyd).
Ailoleuydd
Manylion y Rôl:
Mae'r cynhyrchiad hwn yn ymarfer ac yn agor yn Theatr Clwyd; bydd adran Goleuo Theatr Clwyd yn gofalu am drydan y cynhyrchiad i ddechrau, cyn trosglwyddo'r sioe i ofal yr Ailoleuydd ar gyfer y daith.
Bydd yr Ailoleuydd yn gyfrifol am ffitio a gosod yr holl offer goleuo a logir ac offer goleuo'r lleoliad. Bydd y cynlluniau goleuo’n cael eu llunio gan y Cynllunwyr Goleuo a bydd y gwaith papur ar gyfer y daith yn cael ei greu gan yr Ailoleuydd. Bydd yr Ailoleuydd yn ffocysu’r rig goleuo ac yn sicrhau bod y sioe yn cael ei hailoleuo yn unol â chynllun gwreiddiol y darn. Mae'r Ailoleuydd yn gyfrifol hefyd am oleuo cefn y llwyfan yn ôl yr angen.
Rhaid bod â phrofiad gyda rigiau goleuo deallus a rhaglennu goleuadau symudol ar gyfer y rôl hon.
Mae Under Milk Wood yn defnyddio Goleuadau, Fideo a Chapsiynau Creadigol ac felly bydd angen i'r Ailoleuydd weithio ar y cyd â'r Peiriannydd Fideo i sicrhau bod estheteg yr holl gynlluniau’n gytbwys ac yn briodol.
Bydd yr Ailoleuydd yn trosglwyddo’r awenau i'r Rheolwr Technegol Teithiol ar gyfer y rhediad ym mhob lleoliad.
Bydd yr Ailoleuydd yn cydymffurfio â holl bolisïau a gweithdrefnau Theatr Clwyd a’i reolwr llinell fydd Hannah Lobb (Pennaeth Cynhyrchu Theatr Clwyd).
Cynorthwy-ydd Technegol
Bydd y Cynorthwy-ydd Technegol yn cefnogi'r Rheolwr Technegol Teithiol a'r Rheolwr Cynhyrchu gyda'r gwaith o ffitio a symud allan yn ôl yr angen.
Bydd y Cynorthwy-ydd Technegol yn cefnogi ac yn gweithio'n agos gyda'r Rheolwr Technegol Teithiol ar archwiliadau dyddiol ar offer goleuo, fideo a sain.
Bydd y Cynorthwy-ydd Technegol yng ngofal y cyfrifoldebau Sain rhif 2 yn ystod y perfformiadau, yn ôl yr angen.
Yn ystod y rhediad yn Theatr Clwyd, bydd y Cynorthwy-ydd Technegol yn dysgu'r plotiau canlynol ac wedyn byddant yn ei ofal yn ôl y rota a drefnir gan Reolwr Llwyfan y Cwmni yn ystod y daith.
• Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol
• Capsiynau
• Rheolwr Gwisgoedd
• Rheolwr WHAM
• Pennaeth Sain
Bydd y Swing Technegol yn cadw at holl bolisïau a gweithdrefnau Theatr Clwyd a’i reolwr llinell fydd Hannah Lobb (Pennaeth Cynhyrchu Theatr Clwyd).
Rheolwr Technegol Teithiol
Bydd y Rheolwr Technegol Teithiol yn ymuno â'r cynhyrchiad yn ystod wythnos olaf y rhediad yn Theatr Clwyd.
Bydd y Rheolwr Technegol Teithiol yn gyfrifol am redeg, cynnal a chadw, canfod namau ac atgyweirio'r offer goleuo, fideo a chapsiynau teithiol o ddydd i ddydd. Bydd yn gweithio ochr yn ochr â'r Peiriannydd Fideo a'r Ailoleuydd ar y gwaith ffitio i sicrhau bod yr holl offer wedi'i osod yn ei le ac yn weithredol.
Bydd y Rheolwr Technegol Teithiol yn trafod y plotiau sbotolau dilyn gyda gweithredwyr sbotoleuadau dilyn y lleoliad a bydd yn "galw" y sbotoleuadau dilyn ar gyfer y rhediad cyntaf ym mhob lleoliad.
Bydd y Rheolwr Technegol Teithiol yn gyfrifol am wiriadau a chynnal a chadw dyddiol ar y systemau goleuo, fideo a chapsiynau ac am weithio gyda'r Pennaeth Sain ar gyfer gwiriadau meicroffonau a sain. Mae'n annhebygol y bydd gan y rôl hon blot sioe penodol oherwydd bydd angen i’r Rheolwr Technegol Teithiol fod ar gael i ganfod namau a thrwsio unrhyw broblemau yn ystod y perfformiad.
Bydd y Cynorthwy-ydd Technegol yn gweithio'n agos gyda'r Rheolwr Technegol i ofalu am yr offer technegol ar y daith.
Os bydd raid i'r Cynorthwy-ydd Technegol lenwi rôl un o'r plotiau sioe technegol, bydd y Rheolwr Technegol yng ngofal y dyletswyddau Sain Rhif 2 yn ystod y perfformiad.
Bydd y Rheolwr Technegol Teithiol yn bresennol ar gyfer y gwaith gosod a'r gwaith symud allan ym mhob lleoliad ac mae hefyd yn gyfrifol am lwytho a dadlwytho'r lori yn ôl yr angen.
Bydd y Rheolwr Technegol Teithiol yn cadw at holl bolisïau a gweithdrefnau Theatr Clwyd a’i reolwr llinell fydd Hannah Lobb (Pennaeth Cynhyrchu Theatr Clwyd).
Peiriannydd Fideo
Bydd yn gyfrifol am ffitio a gosod yr holl offer fideo a chapsiynu a logir ac yn y lleoliad. Bydd y cynlluniau fideo’n cael eu cynhyrchu gan y Cynllunwyr Fideo a bydd y Peiriannydd Fideo yn llunio'r gwaith papur ar gyfer y daith.
Pan fydd y sioe ar daith, bydd y Peiriannydd Fideo yn gosod yr holl offer fideo yn ei le ac yn sicrhau bod cynnwys y fideo yn cael ei atgynhyrchu yn unol â chynllun gwreiddiol y darn. Mae'r Peiriannydd Fideo hefyd yn gyfrifol am gomisiynu'r gosodiad Capsiynau Creadigol a'i drosglwyddo i'r Gweithredydd Capsiynau ar gyfer y rhediad ym mhob lleoliad.
Mae Under Milk Wood yn defnyddio Goleuo, Fideo a Chapsiynu Creadigol ac felly bydd angen i'r Peiriannydd Fideo weithio ar y cyd â'r Ailoleuydd i sicrhau bod estheteg yr holl gynlluniau’n gytbwys ac yn briodol.
Bydd y Peiriannydd Fideo’n trosglwyddo'r awenau i'r Rheolwr Technegol Teithiol ar gyfer y rhediad ym mhob lleoliad.
Bydd y Peiriannydd Fideo yn cadw at holl bolisïau a gweithdrefnau Theatr Clwyd a’i reolwr llinell fydd Hannah Lobb (Pennaeth Cynhyrchu Theatr Clwyd).
Rheolwr Gwisgoedd
Manylion y Rôl:
Bydd y Rheolwr Gwisgoedd yn ymuno â'r cynhyrchiad yn ystod wythnos olaf yr ymarferion yn Theatr Clwyd.
Mae'r Rheolwr Gwisgoedd yn gyfrifol am y canlynol:
• Creu plotiau gwisgo iddo ef ei hun ac 1 x gwisgwr
• Sefydlu mannau newid cyflym yng nghefn y llwyfan ym mhob lleoliad
• Golchi dillad a’u cynnal a’u cadw yn ystod y rhediad a'r daith
• Sefydlu adran wisgoedd deithiol ym mhob lleoliad
• Addysgu'r gwisgwr lleol ar y daith am y plot gwisgo
• Pacio'r holl wisgoedd ar ôl y perfformiad olaf ym mhob lleoliad mewn pryd ar gyfer diwedd y llwytho allan
Bydd y Rheolwr Gwisgoedd yn cadw at holl bolisïau a gweithdrefnau Theatr Clwyd a’i reolwr llinell fydd Hannah Lobb (Pennaeth Cynhyrchu Theatr Clwyd).
Cynorthwy-ydd WHAM
Bydd y Cynorthwy-ydd WHAM yn ymuno â'r cynhyrchiad yn ystod wythnos olaf yr ymarferion yn Theatr Clwyd.
Mae'r Cynorthwy-ydd WHAM yn gyfrifol am y canlynol:
• Creu plotiau WHAM iddo ef ei hun mewn cydweithrediad â’r Goruchwylydd WHAM
• Sefydlu mannau newid cyflym yng nghefn y llwyfan ym mhob lleoliad
• Plotio WHAM yn ystod pob perfformiad
• Cynnal a chadw WHAM yn ystod y rhediad a’r daith
• Sefydlu WHAM deithiol ym mhob lleoliad
• Pacio'r holl WHAM ar ôl y perfformiad olaf ym mhob lleoliad mewn pryd ar gyfer diwedd y llwytho allan
Bydd y Cynorthwy-ydd WHAM yn cadw at holl bolisïau a gweithdrefnau Theatr Clwyd a’i reolwr llinell fydd Hannah Lobb (Pennaeth Cynhyrchu Theatr Clwyd).
Os hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer unrhyw un o'r swyddi, anfonwch eich CV ar e-bost a nodi pa swyddi yr hoffech gael eich ystyried ar eu cyfer at Jenny Pearce, Cynhyrchydd ar jenny.pearce@theatrclwyd.com, gan gynnwys unrhyw ofynion mynediad yr hoffech eu rhannu hefyd.
Y dyddiad cau i anfon eich CV yw dydd Iau 16eg Hydref am 5pm, a chewch wybod os hoffem gyfarfod â chi i drafod y swyddi erbyn diwedd y dydd ar ddydd Llun 20fed Hydref.
Bydd y cyfarfodydd ar-lein gyda'r Rheolwr Cynhyrchu, Suzy Sommerville, a’r Pennaeth Cynhyrchu, Hannah Lobb, naill ai ar ddydd Mercher 22ain neu ddydd Iau 23ain Hydref.
Os oes arnoch chi angen y wybodaeth yma mewn unrhyw fformat arall, anfonwch e-bost at jenny.pearce@theatrclwyd.com