Rhoi rhodd

Cyfrannu heddiw!

Dim ond hanner y stori ydi'r gwaith rydych chi’n ei weld ar y llwyfan. Rydyn ni’n gweithio gydag amrywiaeth eang o gymunedau, gan gynnwys pobl ifanc sy'n cael anhawster dod o hyd i'w ffordd, neu'r rhai sydd ag anghenion corfforol neu ddysgu ychwanegol, oedolion sydd â cholled cof cynnar a'u gofalwyr, gweithwyr theatr proffesiynol yn gynnar yn eu gyrfa, a llawer mwy…

Yn Theatr Clwyd, rydyn ni’n credu y dylai pawb allu mwynhau'r celfyddydau a gyda'ch help chi gallwn gynnig pob math o sesiynau creadigol a hyfforddiant i helpu i wneud gwahaniaeth yn ein cymunedau. Gallai eich cyfraniad chi helpu person ifanc o deulu incwm isel i gael mynediad at y celfyddydau neu roi cyfle i awdur addawol ysgrifennu campwaith!

Rhoi rhodd

symudwch y llithrydd i addasu eich cyfraniad

Teipiwch yn y blwch i osod eich swm

Donation

Fel elusen gofrestredig, sef Theatr Clwyd Trust (Elusen Gofrestredig Rhif 1189857), gallwn hawlio Rhodd Cymorth ar eich rhodd. Mae Rhodd Cymorth yn ffordd wych o allu rhoi ychydig mwy heb unrhyw gost ychwanegol i chi. Os ydych chi’n gymwys ar gyfer Rhodd Cymorth, gallwn hawlio 25% gan CThEM ar ben eich rhodd. Bydd eich rhodd o £10 i ni yn werth £12.50!

Ffyrdd o Gefnogi


Cyfarwyddwr Datblygu a Chynaliadwyedd Amgylcheddol, zoe.crick-tucker@theatrclwyd.com

Cynorthwy-Ydd Datblygu, lily.peers-dent@theatrclwyd.com


Main image by Daffyd Owen. Dressing room image: Our architects, Haworth Tompkins work at the Everyman, photography by Philip Vile. Name a Seat image: Anthony Hopkins Theatre by Theatr Clwyd. Name a tile image: by Daffyd Owen. Production image: Junkyard, a Headlong, Theatr Clwyd, Bristol OId Vic, Rose Theatre Kingston production, photography Manuel Harlan.